Prilep: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:24, 1 Mai 2021

Dinas yng Ngogledd Macedonia yw Prilep (Tyrceg: Perlepe). Saif i dde'r brifddinas Skopje, ar y rheilffordd rhwng Titov Veles a Bitola.

Prilep
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth63,308 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethQ61119921 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, CEST Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Zadar, Radom, Garfield, New Jersey, Deyang, Chernihiv, Asenovgrad, Verona, Koper, Topoľčany, Nikšić Edit this on Wikidata
NawddsantSant Nicolas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Prilep, Strymon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Macedonia Gogledd Macedonia
Arwynebedd1,194.44 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr620 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.3464°N 21.5542°E Edit this on Wikidata
Cod post7500 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethQ61119921 Edit this on Wikidata
Map

Roedd Prilep yn ganolfan bwysig yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae sawl eglwys a mynachlog o'r cyfnod hwnnw gan gynnwys Eglwys Sant Niclas, a adeiladwyd ym 1299 ac sydd yn enwog am ei ffresgoau, a Mynachlog yr Archangel Mihangel ac Eglwys Sant Demetrius, y ddau ohonynt a godwyd yn y 14g. Ar un pryd bu Stefan Dušan, Brenin Serbia i 1331 i 1346, yn byw yma. Prilep oedd man geni Marko Kraljević, Brenin Serbia o 1371 i 1395, ac un o brif arwyr y Balcanau yn y frwydr yn erbyn yr Otomaniaid. Mae olion o Gastell Prilep, a godwyd gan y Brenin Marko, yn sefyll hyd heddiw.

Prilep yw'r ddinas bedwaredd fwyaf yng Ngogledd Macedonia ac yn brif ganolfan i fasnach a gweithgynhyrchu yn ardal Pelagonia. Tyfir ffrwythau a thybaco yn iseldiroedd ffrwythlon Basn Prilep, ac yma hefyd cynhyrchir tecstilau, gwin, a lledr. Gwneir briciau silica a defnyddiau ynysol o ddiatomit yn y ddaear.[1]

Gostyngodd y boblogaeth o 71,899 ym 1994[2] i 66,246 yn 2002, ac i 64,830 yn 2016.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Prilep. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mai 2021.
  2. (Saesneg) "Prilep", The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar Mai 2021.