Trychineb Lag BaOmer, 2021: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol Golygiad symudol uwch
Llinell 2:
Gwasgfa dorfol yn ystod gŵyl grefyddol [[Lag BaOmer]] ym Meron, [[Israel]], ar 30 Ebrill 2021 oedd '''trychineb Lag BaOmer'''. Bu farw 45 o bobl ac anafwyd rhyw 150, y mwyafrif ohonynt yn ddynion a bechgyn o enwad yr [[Iddewon Haredi]].<ref name=BBC/> Hon oedd y drychineb waethaf, nad oedd yn gyrch milwrol neu yn achos o derfysgaeth, yn [[hanes Israel|hanes Gwladwriaeth Israel]].<ref>{{eicon en}} Tzvi Joffre, "[https://www.jpost.com/breaking-news/lag-bomer-80-year-old-in-critical-condition-52-requiring-treatment-666768 In Lag Ba'omer Mount Meron stampede 45 killed, at least 150 injured]", ''[[The Jerusalem Post]]'' (1 Mai 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.</ref>
 
Dyma oedd yr ŵyl grefyddol sylweddol gyntaf a gynhaliwyd yn gyfreithlon ers i Israel godi'r holl gyfyngiadau ers dechrau [[pandemig COVID-19]].<ref>"[https://golwg.360.cymru/newyddion/rhyngwladol/2048579-bobl-wedi-marw-mewn-gwyl-grefyddol-israel Mwy na 40 o bobl wedi marw mewn gŵyl grefyddol yn Israel]", [[Golwg360]] (30 Ebrill 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.</ref> Digwyddodd y drychineb ychydig cyn un o'r gloch y bore mewnar hyd un o'r llwybrau cul sydd yn cysylltu llwyfannau awyr-agored yr ŵyl. Yn ôl rhai llygad-dystion cychwynnodd y wasgfa wedi i'r heddlu gau'r dramwyfa, ond yn ôl ffynonellau'r heddlu fe'i achoswyd gan bobl yn syrthio ar risiau. Wrth i'r rhes ar flaen y dorf cwympo i'r llawr, disgynnodd y llif o bobl tu ôl iddynt ar eu pennau.<ref name=BBC>{{eicon en}} "[https://www.bbc.co.uk/news/world-middle-east-56955396 Israel crush: Israel mourns as festival crush victims identified]", [[BBC]] (1 Mai 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==