Pelydriad corff du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cychwyn tudalen ar ffenomen ffisegol
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:41, 5 Mai 2021

Pelydriad Corff Du yw'r sbectrwm o egni electromagnetig sy'n gadael gwrthrych sy'n anrhyloew ac nad sy'n adlewyrchu (rhywbeth ffisegol haniaethol - ond sy'n disgrifio i raddau y rhan fwyaf o wrthrychau'r bydysawd)[1][2]. Mae'r sbectrwm di-dor yma yn dibynnu yn unig ar dymheredd wyneb y gwrthrych. Enghraifft pob dydd yw lliw sbectrwm yr haul. Mae ei wyneb (y ffotosffer) ar dymheredd o 5778 K yn pelydru casgliad o donfeddi electromagnetig (o belydrau-x, trwy'r uwch fioled, y sbectrwm gweledol a'r is-goch, i donfeddi radio) sy'n ymddangos i'n llygaid ni yn (oddrychol yn) wyn. Enghraifft arall yw lliw darn o haearn yn ffwrnais yr of. Wrth ei gynhesu mae lliwiau'r allyriad yn newid o anweledig i goch, i oren, i felyn ac yna i wyn (wynias). Mae pob un o'r rhain yn gymysgedd o'r sbectrwm electromagnetig, ond sy'n cynnwys mwy o fewnbwn tonfedd hir ("glasach") wrth gynhesu. Ar tua 600°C mae'r coch tywyll yn ymddangos. Tua 2000°C yw'r poethaf - y gwynias. Gellir canfod anifeiliaid (gan gynnwys pobol - ar tua 33°C) mewn tywyllwch trwy ddefnyddio offer sy'n synhwyro'r tonfeddi is-goch (anweledig) tonfedd byrach na goleuni gweledol.

Mae lliw'r haearn poeth yn arwydd o'i dymheredd - yn ôl deddfau pelydriad corff du.

Ym myd seryddiaeth mae modd mesur tymheredd sêr wrth ddadansoddi sbectrwm ei allyriad. Yn boethach na'r haul ( 5778 K) mae'r lliw glas yn ymddangos (sy'n boethach na "gwyn".)

Bathwyd y term corff du gan Gustav Kirchhoff (1824-1887)[3] o Brwsia yn 1860. Yn aml cysylltir y syniad gyda'r Almaenwr Max Planck (1858-1947)[4] a ddyfeisiodd hafaliad mathemategol yn 1900 i'w disgrifio - a thrwy hynny agor y drws i ddarganfyddiad y cwantwm.

Cyfeiriadau

  1. Farina, Dave (20 Ebrill 2017). "Blackbody Radiation and the Ultraviolet Catastrophe". You Tube. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  2. "Blackbody radiation". Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA). 2019. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  3. J. J. O'Connor, E. F. Robertson (2002). "Gustav Robert Kirchhoff". Prifysgol St. Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  4. J J O'Connor, E F Robertson (Hydref 2003). "Max Karl Ernst Ludwig Planck". Prifysgol St Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 5 Mai 2021.