Effaith Doppler: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cychwyn tudalen ar ffenomen ffisegol
 
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Twtio ychydig
Llinell 1:
[[Delwedd:Doppler Effect.gif|bawd|Mae amledd sain a golau yn newid os yw'r ffynhonnell neu'r derbynnydd yn symud]]
Yr '''effaith Doppler''' yw'r newid mewn [[amledd]] dirgryniad (er enghraifft [[sŵn]] neu [[Goleuni|oleuni]]) sydd i'w canfod pan fo'r ffynhonnell neu’r derbynnydd yn symud at neu i ffwrdd o’i gilydd<ref>{{Cite web|url=https://imagine.gsfc.nasa.gov/features/yba/M31_velocity/spectrum/doppler_more.html|title=Doppler Shift|date=24 Medi 2020|access-date=5 Mai 2021|website=NASA}}</ref>. Enghraifft gyfarwydd yw traw sŵn cerbyd wrth agosáu a phasio ar y ffordd (corn ambiwlans neu feic modur, er enghraifft). Disgrifiwyd yr effaith yn ffurfiol gan y ffisegydd o [[Awstria]], Christan Doppler (1803-1853) yn 1842<ref>{{Cite web|url=https://sci.esa.int/web/home/-/28594-christian-doppler|title=Christian Doppler - The discoverer of the Doppler effect.|date=2019|access-date=5 Mai 2021|website=Asiantaeth Ofod Ewrop}}</ref>.
 
Bu canfod effaith Doppler mewn [[Sbectrwm|sbectra]] [[Seren|sêr]] yn allweddol wrth ddatblygu esboniad presennol esblygiad y [[Bydysawd (seryddiaeth)|bydysawd]]. Yn y 19eg ganrif, trwy ddadansoddi ymddygiad ei goleuni, sylwodd William Huggins (1824-1910)<ref>{{Cite web|url=https://makingscience.royalsociety.org/s/rs/people/fst00199581|title=William Huggins|access-date=5 Mai 2021|website=Y Gymdeithas Frenhinol}}</ref> ag eraill bod y sêr yn symud. Dros y ddeugain mlynedd nesaf bu nifer o ddatblygiadau a arweiniodd i'r sylweddoliad bod y bydysawd yn chwyddo - a'i bod wedi cychwyn mewn "[[Damcaniaeth y Glec Fawr|Glec Fawr"]]. (Y mae’r rhan helaethaf o sêr y bydysawd yn symud i ffwrdd ohonom, ac felly tonfedd eu golau yn ymestyn – yn symud i gyfeiriad coch y sbectrwm (ruddiad[[rhuddiad]]).) Bu enw'r seryddwr o [[Americanwyr|America]], Edwin Hubble (1889-1953)<ref>{{Cite web|url=https://asd.gsfc.nasa.gov/archive/hubble/overview/hubble_bio.html|title=Edwin Powell Hubble (1889-1953)|date=29 Mawrth 2021|access-date=5 Mai 2021|website=NASA}}</ref> yn un amlwg yn y gweithgaredd hwn, er bu nifer o gyfranwyr a chyfranwragedd eraill.
 
== Cyfeiriadau ==