Pelydriad corff du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cyswllt Ffotosffer
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= | image = Blacksmith at work02.jpg |bawd| caption = Mae lliw'r haearn poeth yn arwydd o'i dymheredd - yn ôl deddfau pelydriad corff du.|313x313px]]}}
 
'''Pelydriad Corff Du''' yw'r sbectrwm o egni [[Tonnau electromagnetig|electromagnetig]] a ddaw o wrthrych sy'n anrhyloew ac nad sy'n adlewyrchu (rhywbeth ffisegol haniaethol - ond sy'n disgrifio i raddau y rhan fwyaf o wrthrychau'r bydysawd)<ref>{{Cite web|url=https://www.youtube.com/watch?v=7BXvc9W97iU|title=Blackbody Radiation and the Ultraviolet Catastrophe|date=20 Ebrill 2017|access-date=5 Mai 2021|website=You Tube|last=Farina|first=Dave}}</ref><ref>{{Cite web|url=https://sci.esa.int/web/education/-/48986-blackbody-radiation|title=Blackbody radiation|date=2019|access-date=5 Mai 2021|website=Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA)}}</ref>. Mae'r sbectrwm di-dor yma yn dibynnu yn unig ar dymheredd wyneb y gwrthrych. Enghraifft pob dydd yw lliw sbectrwm yr [[haul]]. Mae ei wyneb (y [[ffotosffer]]) ar dymheredd o 5778 K<ref>{{Cite journal|url=https://www.aanda.org/articles/aa/full_html/2020/10/aa37736-20/aa37736-20.html|title=A new spectroscopic method for measuring the temperature gradient in the solar photosphere|last=Faurobert|first=M.|date=5 Mai 2021|journal=Astronomy & Astrophysics|volume=642|last2=et al|pages=A186}}</ref> yn pelydru casgliad o donfeddi electromagnetig (o [[Pelydr-X|belydrau-x]], trwy'r [[Uwchfioled|uwch fioled]], y sbectrwm weladwy a'r [[is-goch]], i donfeddi radio) sy'n ymddangos i'n llygaid (a'n hymennydd) ni yn wyn. Enghraifft arall yw lliw darn o haearn yn ffwrnais yr [[Gof|of]]. Wrth ei gynhesu mae lliwiau'r allyriad yn newid o'r anweledig i goch, i oren, i felyn ac yna i wyn (wynias). Mae pob un o'r rhain yn gymysgedd o'r sbectrwm electromagnetig, ond sy'n cynnwys mwy o fewnbwn tonfedd hir ("glasach") wrth gynhesu. Wrth gyrraedd tua 600°C mae'r coch tywyll yn ymddangos. Tua 2000°C yw'r poethaf i ffwrnais gyffredin a gwelir yr haearn yn wynias. Gellir canfod anifeiliaid (gan gynnwys pobol - ar tua 33°C) mewn tywyllwch trwy ddefnyddio offer sy'n synhwyro'r tonfeddi is-goch (anweledig) sydd â thonfedd byrach na goleuni gweladwy.