Llygoden y coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Blwch tacson | enw = Llygoden y coed | delwedd = ApodemusSylvaticus.jpg | maint_delwedd = 250px | neges_delwedd = | regnum = Animalia | phylum = ...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:42, 7 Mai 2021

Llygoden y coed
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Muridae
Genws: Apodemus
Rhywogaeth: A. sylvaticus
Enw deuenwol
Apodemus sylvaticus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad daearyddol

Mamal bach o drefn y cnofilod (Rodentia) yw Llygoden y coed (Apodemus sylvaticus). Mae i'w gael ledled y rhan fwyaf o Ewrop. Mae'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1]

Maen nhw'n weithgar yn y nos ar y cyfan. Maen nhw'n byw mewn coedwigoedd, glaswelltiroedd a thir amaeth, ond maen nhw'n chwilio am ardaloedd mwy coediog yn y gaeaf a gallant fyw mewn adeiladau yn ystod tymhorau garw. Maen nhw'n tyllu ac yn adeiladu nythod gyda deunydd planhigion.

Yn gyffredinol, maen nhw'n bwyta hadau, yn enwedig hadau o goed fel derw, ffawydd, ynn, Pisgwydd, draenen wen a masarn. Os oes digon o hadau, maen nhw'n eu cludo yn ôl i'w tyllau i'w storio. Gallant hefyd fwyta malwod a phryfed, yn enwedig ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf pan fydd llai o hadau ar gael. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn byddan nhw'n bwyta aeron, ffrwythau, ffyngau a gwreiddiau.

Nid ydynt yn gaeafgysgu; fodd bynnag, yn ystod gaeafau caled gallant syrthio i gyflwr torpid.

Mae rhieni'n magu sawl torllwyth yn ystod tymor, ond ychydig o oedolion fydd yn goroesi o un haf i'r nesaf.

Mae eu hysglyfaethwyr yn cynnwys llwynogod, gwencïod, tylluanod a chathod. Mae llygod coed yn ysglyfaeth bwysig i dylluanod brych; pan fydd eu niferoedd yn isel, gall tylluanod fethu bridio.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Wood Mouse", Gwefan The Mammal Society; adalwyd 7 Mai 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.