Falens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybolen, categori a manion
symud delwedd i'r chwith
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }}
 
[[Delwedd:Higgins-particles.jpg|bawd|388x388px|Cynllun "ronynnau eithaf" y cemegydd William Higgins (1789). Rhagfynegiad priodoledd '''falens''' atomau.]]
'''Falens''' yw sut y mae [[Atom|atomau]] cemegol elfennol yn cysylltu â’i gilydd i ffurfio [[Moleciwl|molecylau]]<ref>{{Cite book|title=Chemistry3|last=Burrows|first=Andrew|publisher=OUP|year=2017|isbn=9780198733805|location=Rhydychen|last2=ag eraill}}</ref>. Bu darganfod y priodoledd hwn yn rhan bwysig o ddatblygiad y ganfyddiaeth fodern o [[atom]] a [[moleciwl]]. Gwyddom, bellach, bod falens yn ddibynnol ar batrwm [[Electron|electronau]] atomau.
[[Delwedd:Higgins-particles.jpg|bawd|388x388px|chwith|Cynllun "ronynnau eithaf" y cemegydd William Higgins (1789). Rhagfynegiad priodoledd '''falens''' atomau.]]
 
Yn fuan wedi datblygu’r syniadau o elfennau cemegol, trwy arbrofion gofalus, daeth i’r amlwg eu bod yn cyfuno a'i gilydd yn gyson ac yn gyfraneddol. Yn 1789 cyhoeddodd y cemegydd o [[Iwerddon]] William Higgins<ref>{{Cite journal|url=https://www.nature.com/articles/176008a0.pdf|title=William Higgins, Chemist (1763-1825)|last=Partington|first=J.R.|date=1955|journal=Nature|volume=176|pages=8-9}}</ref> ei syniadau am gyfuniad “ronynnau eithaf” a rhagfynegodd y disgrifiad ffurfiol gyntaf gan y cemegydd o [[Lloegr|Loegr]] Edward Frankland<ref>{{Cite web|url=https://www.lindahall.org/edward-frankland/|title=Scientist of the Day - Edward Frankland|date=18 Ionawr 2017|access-date=7 Mai 2021|website=Linda Hall Library|last=Crosson|first=Sally}}</ref> yn 1852.  Gydag esboniad [[Ernest Rutherford]] o strwythur yr atom bu modd i’r [[Americanwyr|Americanwr]] Gilbert Lewis<ref>{{Cite book|title=Gilbert Newton Lewis|last=Hildebrand|first=Joel H.|publisher=National Academy of Sciences (US)|year=1958|location=Washington D.C.|url=http://www.nasonline.org/publications/biographical-memoirs/memoir-pdfs/lewis-gilbert-n.pdf}}</ref>, yn 1916, esbonio falens yn nhermau tueddiad atomau (brif grŵp) i gasglu wyth electron mewn plysg falens pan fyddant yn cyd-gysylltu, neu ffurfio ionau.  Er enghraifft, trwy ranni un electron mae atom [[sodiwm]] (sydd ag un electron yn ei orbit falens) yn cydweithio ag atom [[clorin]] (sydd a saith) i ffurfio dwy ion (Na<sup>+</sup> a Cl<sup>-</sup>) ag wyth electron yn eu horbitau falens. Yn yr un modd mae pedwar atom [[hydrogen]], sydd ag un electron, yn cyfrannu’r pedwar electron sydd eu hangen i osod wyth electron yn orbit falens atom [[carbon]] mewn moleciwl o fethan. (Dau electron, yn hytrach nag wyth, sy’n llenwi plysg falens atomau hydrogen a [[heliwm]].)