Llygoden y tŷ: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Blwch tacson | enw = Llygoden y tŷ | delwedd = Mouse white background.jpg | maint_delwedd = 250px | neges_delwedd = | regnum = Animalia | phylum =...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 22:32, 7 Mai 2021
Llygoden y tŷ | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Muridae |
Genws: | Mus |
Rhywogaeth: | M. musculus |
Enw deuenwol | |
Mus musculus Linnaeus, 1758 | |
Dosbarthiad daearyddol |
Mamal bach o drefn y cnofilod (Rodentia) yw Llygoden y tŷ (Mus musculus). Mae'n doreithiog ledled y byd. Er ei fod yn anifail gwyllt, mae llygoden y tŷ wedi elwa o fyw ochr yn ochr â bodau dynol i'r pwynt bod poblogaethau gwirioneddol wyllt yn llawer llai cyffredin na'r rhai sy'n agos at weithgaredd dynol. Mae'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1]
Mae llygod y tŷ yn frodorol i India, ac wedi ymledu i ardal ddwyreiniol Môr y Canoldir tua 13,000 CC, ond ni ni chyrhaeddon nhw weddill Ewrop tan oddeutu 1000 CC. Fe gyrhaeddon nhw'r America gyntaf ar ddechrau'r 16g ar longau fforwyr Sbaen. Tua chan mlynedd yn ddiweddarach, fe gyrhaeddodd Ogledd America gyda masnachwyr ffwr o Ffrainc a gwladychwyr o Loegr. Fe wnaethon nhw ledaenu wedi hynny i bob rhan o'r byd yn ystod y broses o wladychu.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ "House Mouse", Gwefan The Mammal Society; adalwyd 7 Mai 2021