Ïon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cyswllt Falens
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Gosod cwpwl o gysylltiadau
Llinell 13:
 
=== Ioneiddio atomau ===
Mae trefn a gwerth egni ïoneiddio electronau'r holl [[Elfen gemegol|elfennau]] yn ddadlennol iawn ynglŷn â natur ac ymddygiad yr elfen honno - ac mi fu'n dystiolaeth bwysig wrth ddatrys strwythur yr atom<ref name=":0" />. Er enghraifft (wrth ystyried dosbarthiad [[Dmitri Mendeleev|Tabl Cyfnodol Mendeleev]]) mae gan holl atomau [[Metel|metelau]] [[Grŵp yn y tabl cyfnodol|grŵp 1]] ( [[Lithiwm|Li]], [[Sodiwm|Na]], [[Potasiwm|K]], [[Rwbidiwm|Rb]], [[Cesiwm|Cs]]) un electron yn eu horbitau [[falens]]. Mae'r egni ïoneiddio (I<sub>1</sub>) yn lleihau wrth ddringo ar hyd y grŵp. Ei werth yw 520 kJ.mol<sup>-1</sup> am Li a 375.7 kJ.mol<sup>-1</sup> ar gyfer Cs. Gellir ystyried hyn yn ganlyniad i "pellter" yr electron o'r [[Niwclews atomig|niwclews]] cynyddu ac felly dylanwad ei wefr bositif gwanhau o'r herwydd. Mae'r un peth yn wir am fetelau [[Grŵp yn y tabl cyfnodol|grŵp 2]], gyda gwerthoedd I<sub>1</sub> a I<sub>2</sub> yn lleihau wrth ddringo'r grŵp (i [[Beriliwm|Be]] I<sub>1</sub>= 899.5 kJ.mol<sup>-1</sup>, I<sub>2</sub>= 1757.1 kJ.mol<sup>-1</sup> ac i [[Bariwm|Ba]] I<sub>1</sub>= 502.9 kJ.mol<sup>-1</sup> I<sub>2</sub>= 965.2 kJ.mol<sup>-1</sup>). Adlewyrchir hyn yn nhrefn adweithedd y metelau a [[dŵr]] - Li y fwyaf a Ca y lleiaf (o'r metal cymharol gyfarwydd mewn gwers ysgol). naid sylweddol yng ngwerth egni ïoneiddio'r electron nesaf (tu hwnt i'r orbit falens) ym mhob achlysur. Er enghraifft I<sub>2</sub> Li yw 7298.1 kJ.mol<sup>-1</sup> a I<sub>3</sub> Be yw 14,848.7 kJ.mol<sup>-1</sup>.
 
Yr un yw'r egwyddor am atomau'r anfetelau, ond, fel arfer codi yn hytrach na gollwng electronau i'r orbit falens a welir. Yma ceir egni ennill electron<ref>{{Cite web|url=https://chem.libretexts.org/Bookshelves/Physical_and_Theoretical_Chemistry_Textbook_Maps/Supplemental_Modules_(Physical_and_Theoretical_Chemistry)/Physical_Properties_of_Matter/Atomic_and_Molecular_Properties/Electron_Affinity|title=Electron Affinity|date=22 Awst 2020|access-date=7 Mai 2021|website=LibreTexts (UC Davis)|last=Bassi|first=Hargeet|authorlink2=ag eraill}}</ref> (a all fod yn bositif neu yn negatif). I "eithafwyr" [[Grŵp yn y tabl cyfnodol|grŵp 17]] ([[Fflworin|F]], [[Clorin|Cl]], [[Bromin|Br]], [[Ïodin|I]]) gwerthoedd E<sub>ea</sub> yw 328, 349, 325 a 295 kJ.mol<sup>-1</sup>.
 
=== Ioneiddio molecylau ===