Thomas Parry (ysgolhaig): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Bu'n bennaeth [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] ([[1953]]–[[1958]]) pan benodwyd ef yn brifathro ar [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] ([[1958]]–[[1969]]). Roedd yn brifathro yno pan oedd Charles Windsor yn fyfyriwr, er ei fod yn poeni'n ddifrifol am yr awyrgylch yn Aberystwyth ac y rhybuddiodd yr awdurdodau na allai dderbyn cyfrifoldeb am ddiogelwch y Tywysog.<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/hanes/safle/themau/enwogion/arwisgiad69.shtml bbc.co.uk;] adalwyd 14 Awst 2017.</ref> Graddiodd yn y Gymraeg gydag anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf flwyddyn yn hwyr, sef yn 1926, am iddo golli'r rhan fwyaf o'i ail flwyddyn oherwydd [[y dwymyn goch]] a'r [[pliwrisi]]. Yno cymerasai [[Lladin|Ladin]] fel pwnc atodol. Wedi graddio cafodd swydd darlithydd cynorthwyol mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd.
 
Ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â darlithio mewn dwy adran, yn 1929 gorffennodd ei draethawd MA ar 'Fywyd a Gwaith [[Siôn Dafydd Rhys]]'. Yno hefyd y cyfarfu ag Enid, a phriodwyd y ddau ar 20 Mai, 1936.
 
Ar farwolaeth Syr John Morris-Jones yn 1929, penodwyd ef yn ddarlithydd o dan [[Ifor Williams]] yn ei hen Adran ym Mhrifysgol Bangor. Pan gyhoeddwyd ''Gwaith Dafydd ap Gwilym'' yn 1952 yn gyfrol 800 tudalen fe'i cydnabuwyd fel un o gampweithiau mawr ysgolheictod Cymraeg a gwobrwywyd ef gyda DLitt Prifysgol Cymru. Yn 1959 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig. Yn 1947, penodwyd ef i Gadair y Gymraeg, ac yna'n Ddeon ei Gyfadran ac yn Is-Brifathro'r coleg.