Cwmni Bae Hudson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
ehangu fymryn: sefydlwyr, hanes ers yr 17g
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
Menter fasnachol oedd '''Cwmni Bae Hudson''' ({{iaith-en|Hudson's Bay Company}}, HBC), yn llawn Cwmni'r Anturiaethwyr o Loegr yn Masnachu ym Mae Hudson (''Company of Adventurers of England Trading into Hudson's Bay''), a chwaraeodd ran bwysig yn [[Oes y Darganfod]] a'r [[masnach grwyn|fasnach grwyn]] yng [[Canada|Nghanada]]. Sefydlwyd yn [[Llundain]], wedi i Médard Chouart Groseilliers ddychwelyd o Fae Hudson ym mis Hydref 1669. ac ymgorfforwyd gan [[siarter frenhinol]] ar 2 Mai 1670, gyda'r nod o ganfod [[Tramwyfa'r Gogledd Orllewin]], i feddiannu'r tiroedd ar lannau Bae Hudson, ac i fasnachu yn y tiroedd hynny er budd economaidd [[Teyrnas Lloegr]].
 
Sefydlwyd yn [[Llundain]], wedi i Médard Chouart Groseilliers ddychwelyd o [[Bae Hudson|Fae Hudson]] ym mis Hydref 1669. ac ymgorfforwyd gan [[siarter frenhinol]] ar 2 Mai 1670, gyda'r nod o ganfod [[Tramwyfa'r Gogledd Orllewin]], i feddiannu'r tiroedd ar lannau Bae Hudson, ac i fasnachu yn y tiroedd hynny er budd economaidd [[Teyrnas Lloegr]]. Llofnodwyd y siarter frenhinol gan ddeunaw o fuddsoddwyr sefydlol: [[Rupert, Tywysog y Rhein]]; Syr [[George Carteret]], dyn cyfoethocaf Lloegr; [[Anthony Ashley Cooper, Iarll 1af Shaftesbury|Yr Arglwydd Ashley]]; Christopher Monck, 2il Ddug Albemarle; Syr James Hayes, Aelod Seneddol ac ysgrifennydd i'r Tywysog Rupert; Syr Robert Vyner, Barwnig a Siryf Llundain; Syr John Robinson, Arglwydd Faer Llundain; Syr William Craven, Iarll Craven, un o Arglwydd Berchenogion Carolina; Syr Peter Colleton, Llywodraethwr Barbados; Syr John Kirke; Syr Paul Neele; Syr Edward Hungerford; John Portman; Francis Millington, Comisiynydd Tollau; Syr John Griffith; William Pretyman; John Fenn, Tâl-feistr y Morlys; ac Henry Bennett, Arglwydd Arlington.<ref>Lynn Ferguson, "The Hudson's Bay Company" yn ''World Encyclopedia of Entrepreneurship'', ail argraffiad, golygwyd gan Léo-Paul Dana (Cheltenham: Edward Elgar Publishing, 2021), tt. 358–9.</ref>
{{eginyn Canada}}
 
Datblygodd y cwmni [[monopoli|fonopoli]] ar y fasnach grwyn, a bu'n meddu ar dra-arglwyddiaeth yn yr ardal. Trwy gydol y 18g brwydrodd y cwmni yn erbyn y Ffrancod dros reolaeth Bae Hudson. Ildiodd Ffrainc ei thiriogaethau yng Nghanada i [[Teyrnas Prydain Fawr|Brydain Fawr]] ym 1763, a ffurfiwyd Cwmni'r Gogledd Orllewin. O ganlyniad i gystadleuaeth rhwng y ddau gwmni, gorfodwyd Cwmni Bae Hudson i fforio i'r gorllewin, ac ym 1771 dangosodd Samuel Hearne nad oedd ffordd o ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin allan o Fae Hudson. Cyfunwyd y ddau gwmni ym 1821 gyda rheolaeth dros diriogaeth o'r Iwerydd i'r Cefnfor Tawel. Yn sgil Cydffederasiwn Canada ym 1867, cynyddodd yr heriau i'w fonopoli, ac ym 1869 gorfodwyd i'r cwmni ildio'i holl diriogaeth i Ganada am £300,000. Wrth i'r fasnach grwyn leihau yn nechrau'r 20g, cafodd y cwmni ei amrywiaethu, ac ym 1930 ei rannu'n sawl cwmni.
 
Cwmni Bae Hudson yw'r cwmni nwyddau cyd-stoc corfforedig hynaf yn y byd Saesneg,<ref>Ferguson, "Hudson's Bay Company" (2021), t. 358.</ref> a'r gorfforaeth hynaf sydd yn ddal i weithredu yng Nghanada.<ref>Ferguson, "Hudson's Bay Company" (2021), t. 365.</ref>
 
== Ffynonellau ==
=== Cyfeiriadau ===
{{cyfeiriadau}}
 
=== Llyfryddiaeth ===
* Lynn Ferguson, "The Hudson's Bay Company" yn ''World Encyclopedia of Entrepreneurship'', ail argraffiad, golygwyd gan Léo-Paul Dana (Cheltenham: Edward Elgar Publishing, 2021), tt. 358–66.
 
[[Categori:Cwmnïau Canada]]