Owen Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
| dateformat = dmy
}}
Esgob Pâbyddol yn ne'r [[Eidal]], a gŵr o [[Llangadwaladr, Ynys Môn|Langadwaladr, Ynys Môn]] oedd '''Owen Lewis''' (neu ''Lewis Owen'' ar adegau; [[28 Rhagfyr]] [[1533]][[14 Hydref]] [[1595]]).<ref>[http://yba.llgc.org.uk/en/s-LEWI-OWE-1533.html LEWIS , OWEN , or OWEN , LEWIS]</ref>
Ganwyd Owen Lewis ([[Eidaleg]]: Ludovico Audoeno, [[Lladin]]: Audoenus Ludovisi) ym mhentrefan Bodeon ger Llangadwaladr. Daeth yn Esgob Cassano all'Jonio, yn yr Eidal.<ref name=CathHierOwenLewis>[http://www.catholic-hierarchy.org/bishop/blewiso.html "Bishop Owen (Audoenus) Lewis (Ludovisi)"] ''[[Catholic-Hierarchy.org]]''. David M. Cheney. Adalwyd 14 Hydref 2017.</ref> Gwrthwynebai Brotestaniaeth i'r carn. Mynychodd [[Coleg Caerwynt|Goleg Caerwynt]] (''Winchester College''), [[Coleg Newydd, Rhydychen]] ac yna [[Prifysgol Douai]] yn [[Ffrainc]], ac fe'i gwnaed yn [[offeiriad]] yn yr [[Eglwys Gatholig]] ac yn brifathro prifysgol yn Adran y Gyfraith yn [[Douai]]; yna fe'i gwnaed yn ganon yn [[Eglwys Gadeiriol Cambrai]], ac yn ddeon yn [[Hainault]]. Yn ei rol fel canon ymwelodd sawl tro â [[Rhufain]] lle y cyfarfu [[Pab Sixtus V]] ac yna [[Pab Grigor XIII]] a phenodwyd ef i sawl swydd eglwysig.<ref>Brendan Bradshaw, Peter Roberts, ''British Consciousness and Identity: The Making of Britain, 1533–1707'' (2003), tt. 21–22; [https://books.google.com/books?id=GcS0O5GastIC&pg=PA21 Google Books].</ref>