Ffatri Airbus UK, Brychdyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newidiadau A350 yn Hydref 2011
newid bach - miliwn euro
Llinell 46:
Yn 2008 dechreuodd cynllunio am adeilad newydd `ffatri'r gogleddol` i'r awyren A350; mae yr A350 yn wahanol i'r awyrennau o'i blaen yn defnyddio CFC (Carbon Fibre Composite) yn lle alwminiwm i weithgynhyrchu yr adain.
 
Fe agorwyd y ffatri ‘gogleddol’ I gynhyrchy yr A350 ar y 13ed Hydref 2011 gan y Prif Weinidog David Cameron. Mae’r ffatri yn gorchuddio 46,000 meter sgwar ac wedi costio rhyw 450 miliwn euro, un o’r adeiladau mwyaf I’w godi ym Mhrydain Fawr yn y blynyddoedd diwethaf.
 
Mae adain yr A350 yn cael ei cydosod ym Mhrychtyn o ddarnau sydd yn cael eu cynhyrchu o gwmpas y byd . Mae’r croen uchaf CFC sydd yn 31 x 6 meter o faint, yn dod o Stade yn yr Almaen a’r croen isaf yr un maint yn dod o Illcescas yn Sbaen. Mae’r ‘spar’ blaenol yn dod o’r Unol Dalieuthau ar ‘spar’ cefn yn dod o GKN ym Mryste. Mae’r croenau cyntaf wedi cyrraedd yn y Beluga o Sbaen a’r Almaen.