Mynydd Hiraethog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Emagrug (sgwrs | cyfraniadau) Wedi adio ychydig o wybodaeth pellach |
|||
Llinell 1:
{{
Mae '''Mynydd Hiraethog''' yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng [[Afon Conwy]] ac [[Afon Clwyd]], yn [[Sir Ddinbych]] a [[Conwy (sir)|Sir Conwy]].
Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu [[Grugiar]] yn hanner cyntaf yr [[20g]], ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Goedwig Clocaenog, sydd hefyd yn gartref i un o boblogaethau olaf o [[Gwiwer goch|wiwerod coch]] yn Nghymru.
Y copa uchaf yw [[Mwdwl-eithin]] (532 medr). Mae Meol Seisiog (467 medr) yn gopa arall ble mae dwr yr [[Afon Elwy]] yn dechrau llifo.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o [[Oes yr Efydd]]. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw [[Llyn Alwen]], [[Llyn Brenig]] a [[Cronfa Aled Isaf|Chronfa Aled Isaf]].
Mae adfeilion y porthdy hela [[Gwylfa hiraethog|Gwylfa Hiraethog]] ar ucheldir Mynydd Hiraethog, a gall eu gweld o'r ffordd [[A543]] gerllaw.
==Copaon==
|