[[Delwedd:Map 3 Nifer yn gallu siarad Cymraeg, 2001 tud 22 B.png|bawd|240px|Y nifer a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 2001, fesul cymuned.]]
CynhalwydCynhaliwyd [[cyfrifiad]] o bob rhan o'r [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]], a adnabyddir yn gyffredinol fel '''Cyfrifiad 2001''', ar ddydd Sul [[29 Ebrill]] [[2001]]. Hwn oedd y 19fed gyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd Cyfrifiad 2001 gan y [[Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol]] yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]], a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr [[Alban]] a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]]. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau.