Sbectrwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Delusion23 (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Llaw a llygad - Gwybodlen Pethau a manion using AWB
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }}
[[Delwedd:Spectre detail.png|250px|de|bawd|Sbectrwm gweladwy]]
 
Enw ar yr amrywiaeth o [[lliw|liwiau]] sy'n bresennol mewn rhai ffynonellau [[golau]] ydy '''sbectrwm''' (lluosog: sbectra). Mae'r sbectrwm yn dod yn amlwg pan wahanir lliwiau (amleddau)'r golau gan ddyfais megis [[prism]]. Mae ''golau gwyn'' (megis golau'r haul) yn gymysgedd o bob lliw, felly mae ganddo sbectrwm ''di-fwlch'' neu ''gyfan''. Ond mae gan rai ffynonellau golau eraill, megis [[lamp sodiwm|lampau sodiwm]] neu [[LED]], sbectrwm rhannol sy'n cynnwys dim ond rhai amleddau o olau gyda bylchau rhyngddynt.
[[Delwedd:Spectre detail.png|250px|de|bawd|chwith|Sbectrwm gweladwy]]
 
Mae ''sbectrwm allyriant'' rhai sylweddau yn cyfeirio at sbectrwm y golau y byddent yn ei fwrw allan, yn arbennig pan gânt eu poethi, ac mae eu ''sbectrwm amsugniad'' yn cyfeirio at y lliwiau sy'n gallu cael ei amsugno ganddynt. Oherwydd bod sbectra gwahanol gan sylweddau gwahanol, gellir darganfod pa sylweddau sy'n bresennol mewn sampl cemegol trwy edrych ar ei sbectrwm; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pethau pell, megis mewn seryddiaeth, na allent gael eu mesur yn uniongyrchol. ''Sbectrosgopeg'' ydy enw'r maes cyffredinol hwn o wyddoniaeth.