Benjamin Jones, Pwllheli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nodyn:Person using AWB
Gorffenaf > Gorffennaf
Llinell 19:
Arhosodd Jones ym Mhencader am dair blynedd wedi iddo gael ei urddo; ond oherwydd anghydfod ymadawodd a chafodd alwad i gapeli'r yr Annibynwyr ym Methlehem a [[Rhosmeirch]], ar ynys Môn. Arhosodd ym [[Ynys Môn|Môn]] am ychydig dros saith mlynedd a bu cryn lwyddiant ar ei waith. Agorodd achosion newydd yn y [[Talwrn, Ynys Môn|Talwrn]], [[Amlwch]], a [[Biwmares]]. Ychydig wedi marwolaeth Y Parch Rees Harris, Penlan, [[Pwllheli]] ym 1788 cafodd Jones alwad gan yr eglwys a'r canghennau perthynol iddi i gymryd ei le. Dechreuodd ar ei waith ym Mhwllheli tua diwedd 1789. Arhosodd ym Mhwllheli hyd ei farwolaeth.
 
Pan oedd [[John Elias|John Eleias]] ifanc, 17 mlwydd oed, yn ymaflyd efo cyfyng gyngor ysbrydol penderfynodd ymweld â [[Daniel Rowland]] yn [[Llangeitho]] i geisio arweiniad. Ar y ffordd yno aeth i wrando a Benjamin Jones yn pregethu ym Mhenlan. Cyhoeddodd Jones fod ei bregeth ar y testun ''"Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?"'' <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+3%3A38&version=BWM 2 Samuel 3:38 Beibl William Morgan]. Adferwyd 16 Hyd 2020</ref> gan ei fod newydd glywed y newydd galarus bod Rowland wedi marw.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2889046/2924724/83#?xywh=-1102%2C805%2C4349%2C3856 Y Traethodydd GorffenafGorffennaf 1845, tud 306 ''John Elias'' gan Roger Edwards] . Adferwyd 16 Hyd 2020</ref>
 
Fel bron y cyfan o weinidogion anghydffurfiol blaenaf ei gyfnod bu Jones yn mynd ar deithiau efengylu i wahanol rannau o Gymru i geisio lledaenu'r achos Cristionogol. Ar daith ym 1796 ymwelodd â chapel Pendref, [[Llanfyllin]], lle cafodd [[Ann Griffiths|Ann Thomas]] (Ann Griffiths wedyn) tröedigaeth o dan ddylanwad ei weinidogaeth.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2628237/2892098/3#?xywh=-496%2C170%2C3504%2C2277 Y Cyfaill o'r Hen Wlad yn America Cyf. X rhif. 3 - Mawrth 1847, tud 66 Buchweddawl Cofiant Ann Griffiths]. Adferwyd 16 Hyd 2020</ref>