James Hughes (Iago Trichrug): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 10:
Wedi cyfnod yn gweithio fel gwas fferm symudodd Iago Trichrug i [[Lundain]] ym 1799. Yn Llundain fu'n gweithio fel [[gof]] cyn symud i weithdy cynhyrchu [[angor]]au yn Deptford, gan aros yno am 21 mlynedd.<ref>{{Cite web|title=Hughes, James [pseud. Iago Trichrug] (1779–1844), Welsh Calvinistic Methodist minister {{!}} Oxford Dictionary of National Biography|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14076;jsessionid=968F848BFB61C859D996C811B7AAB27B|website=www.oxforddnb.com|access-date=2020-02-12|doi=10.1093/ref:odnb/14076|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Roedd wedi gwrando ar bregethau gan yr [[Annibynwyr]] a'r [[Arminiaeth|Arminiad]] yng Nghiliau Aeron ac wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd yno ym 1797 ond heb fawr rwymiad at achos crefydd. Pan geisiodd symud ei aelodaeth eglwysig i achos Gymraeg yn Llundain, wedi dwy flynedd o fyw yn y ddinas, cafodd ei ddwrdio gan [[John Elias]], a oedd yn ymweld â'r achos, am ei fywyd afradlon a'i ddiffyg ymrwymiad. Roedd Iago'n flin efo John Elias am ei eiriau cas, ond mae'n rairaid eu bod wedi cael effaith gan ei fod wedyn yn ymroi i fywyd y capel. Ym 1808 cafodd ei godi yn un o flaenoriaid Capel Deptford ac ym 1810 dechreuodd bregethu. Ym 1816 fe'i hordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn [[Llangeitho]] gan wasanaethu cynulleidfaoedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain am weddill ei oes. Ym 1823 rhoddodd gorau i'w gwaith fel gwneuthurwr angorau er mwyn ddod yn weinidog ar gapel Methodist newydd Jewin am £80 y flwyddyn.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1134021/1152911/124#?xywh=-1085%2C-400%2C5038%2C3274 Y Traethodydd – James Hughes (Iago Trichrug) gan Gomer M Roberts]</ref>
 
== Bardd a llenor ==