Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy a'r Cylch 1958: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 33:
|gwefan=
}}
Cynhaliwyd '''Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy a'r Cylch 1958''' yn nhref [[Glyn Ebwy]], [[Sir FynywFynwy]] ([[Blaenau Gwent]] bellach). Er bod y rheol Gymraeg wedi'i sefydlu, bu eithriadau yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod]] hon; fe siaradodd [[Aneurin Bevan]], yr aelod seneddol lleol o [[1929]] tan [[1960]], yn y [[Saesneg]], gan na throsglwyddodd ei rieni'r iaith Gymraeg iddo, a oedd yn arferiad cyffredin y dyddiau hynny. Disgrifiodd Bevan yr Eisteddfod fel "conglfaen gwareiddiad", ac anogodd beidio â chyfeirio at 'Gymru a Mynwy' mwyach gan mai nodweddion Cymreig oedd i bobl Mynwy.
 
Bu cryn ddadlau yn y wasg ynglŷn â'r rheol Gymraeg; roedd y [[Western Mail]] yn dadlau am lai o Gymraeg yn yr Eisteddfod, er mwyn y di-Gymraeg, ond yr oedd eraill yn poeni y byddai'r [[Eisteddfod]] yn dychwelyd i fod yn ddwyieithog unwaith yn rhagor. Roedd y rheol Gymraeg yn golygu bod cannoedd o bobl yng Nglyn Ebwy wedi eu diddori yn y Gymraeg ac yn awyddus i'w dysgu.