Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 8:
Mae'n rhan o gynllun 'Awduron wrth eu Gwaith' [[Gŵyl y Gelli]].<ref>https://www.hayfestival.com/writers-at-work/</ref> Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,<ref>https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/</ref>, ynghyd ag [[Osian Owen]], [[Caryl Bryn]], a [[Manon Awst]]; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth [[Y Lle Celf]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018]]. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn ''[[O'r Pedwar Gwynt (cylchgrawn)|O'r Pedwar Gwynt]]'',<ref>{{Cite web|title=O'r Pedwar Gwynt|url=https://pedwargwynt.cymru/safle/tag/Morgan%20Owen|website=pedwargwynt.cymru|access-date=2020-08-01|language=cy}}</ref> ''[[Barddas (cylchgrawn)|Barddas]]'', ac ''[[Y Stamp]]'', ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,<ref>https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/</ref> sef tlws a roddir gan ''[[Barddas (cylchgrawn)|y Gymdeithas Gerdd Dafod]]'' am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|Y Senedd]] i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis [[BBC Radio Cymru]] ar gyfer mis Ionawr 2019.<ref>https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww</ref>
 
Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl ''moroedd/dŵr'', yng [[Gŵyl Arall|Ngŵyl Arall]], Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin annelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]], ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist [[Timna Cox]] mewn ymateb i rai o'r cerddi.<ref>{{Cite web|title=Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/07/03/Cerdd-a-chyhoeddiad-moroeddd%C5%B5r---Morgan-Owen|website=Cylchgrawn y Stamp|access-date=2019-07-15|5=|archive-date=2019-07-15|archive-url=https://web.archive.org/web/20190715111105/https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/07/03/Cerdd-a-chyhoeddiad-moroeddd%25C5%25B5r---Morgan-Owen|url-status=dead}}</ref> Enillodd y casgliad hwn [[Gwobrau Michael Marks am Bamffledi Barddoniaeth|wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd]] yn Rhagfyr 2019.<ref>{{Cite news|title=Gwobr genedlaethol i fardd o Ferthyr|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/50732451|date=2019-12-11|access-date=2019-12-11|language=cy}}</ref>
 
Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd enillydd [[Her Gyfieithu]] [[Cyfnewidfa Lên Cymru]]/[[PEN Cymru]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019]].<ref>{{Cite web|title=Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi’r Enillydd – Wales PEN Cymru|url=http://walespencymru.org/her-gyfieithu-2019-cyhoeddir-enillydd/|access-date=2019-08-09|}}</ref> Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod [[Cwmystwyth]], gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddod Bancffosfelen a Chrwbin.
 
Ddiwedd mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ei gasgliad hir cyntaf o gerddi, ''Bedwen ar y lloer'', gan Gyhoeddiadau'r Stamp.<ref>{{Cite web|title=Cyhoeddiad a cherdd: Bedwen ar y Lloer - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/10/23/Cyhoeddiad-Bedwen-ar-y-Lloer---Morgan-Owen|website=ystamp-1|access-date=2020-08-01|language=cy|archive-date=2019-11-01|archive-url=https://web.archive.org/web/20191101165647/https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/10/23/Cyhoeddiad-Bedwen-ar-y-Lloer---Morgan-Owen|url-status=dead}}</ref> Mae'r cerddi hyn yn mynd i'r afael â phrofiadau a llefydd ôl-ddiwydiannol, gyda thref enedigol y bardd, [[Merthyr Tudful]], yn ganolog i lawer ohonynt, a theimladau o ymddieithrwch a pherthyn. Maent hefyd yn archwilio coedwigoedd hynafol a mannau dinesig, ucheldiroedd cyn-hanesyddol ac ymylon cymdeithas. Ceir canu natur yn ogystal, a thipyn o bwyslais ar sut mae hanes a phrofiad yn ymwau â gwahanol ofodau.
 
Ddiwedd mis Chwefror 2020, enillodd gadair Eisteddfod [[Cymdeithas Ceredigion]]; ac ym mis Gorffennaf 2020, enillodd gadair cystadleuaeth agored arbennig [[Cymdeithas Eisteddfodau Cymru]] a gynhaliwyd yn ystod y pandemig Coronfeirws.