Papur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3:
Deunydd a gynhyrchir ar gyfer ysgrifennu arno yw '''papur'''. Fe'i cynhyrchir o ffeibrau gwahanol blanhigion, a feddalir, eu gwynnu ac yna eu sychu i gynhyrchu dalennau tenau.
 
Defnyddid [[papyruspapyrws]] yn yr [[Hen Aifft]], wedi ei wneud o'r planhigyn ''[[Cyperus papyrus]]''. Yn Ewrop yn yr Oesau Canol, defnyddid [[memrwn]], o groen anifeiliaid ar gyfer ysgrifennu. Yn [[Tsieina]] y dyfeisiwyd papur, yn draddodiadol gan yr [[eunuch]] [[Cai Lun]], cynghorydd yr ymerawdwr [[He, ymerawdwr Han|He]] yn yr 2g. Gwneid y papur o weddillion [[sidan]] a choesau [[reis]] a phlanhigion eraill. Cyrhaeddodd y dechneg o wneud papur i [[Japan]] yn [[610]] a Chanolbarth Asia tua [[750]]. Roedd wedi cyrraedd [[Sbaen]] a [[Sicilia]] erbyn y [[10g]].
 
Y deunydd mwyaf cyffredin ar gyfer gwneud papur heddiw yw coed, ond mae tua 70% o bapur y byd yn cael ei wneud o hen bapur wedi ei ailgylchu. Y gwledydd sy'n cynhyrchu fwyaf yw'r [[Unol Daleithiau]], [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Japan]].