Papyrws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Pethau| fetchwikidata = ALL}} Delwedd:Papyrus bill of sale donkey.jpg|bawd|chwith|Dogfen (bil gwerthiant) a ysgrifennwyd yn Hen Roeg ar bapyrws (126&...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata = ALL}}
[[Delwedd:
Deunydd i ysgrifennu arno sy'n debyg i bapur yw '''papyrws'''. Mae wedi'i wneud o graidd coesau'r planhigyn papyrws, ''[[Cyperus papyrus]]'', sy'n tyfu mewn dŵr bas ac sy'n frodor o Affrica. Yn yr Henfyd byddai dalennau o'r deunydd yn cael eu huno i ffurfio [[sgrôl|sgroliau]], a oedd yn cyflawni swyddogaeth llyfrau bryd hynny.
Roedd papyrws yn cael ei ddefnyddio yn [[yr Hen Aifft]] ers o leiaf 2550 CC. Arferai'r planhigyn papyrws fod yn doreithiog ledled delta [[Afon Nîl]]. Defnyddiodd Eifftiaid yr Henfyd y deunydd nid yn unig i ysgrifennu arno, ond i wneud rhaff, matiau, sandalau, basgedi a hyd yn oed cychod.
Roedd papyrws yn rhad ac yn hawdd i'w wneud, ond roedd yn fregus ac wedi'i ddifrodi'n hawdd. Yn y pen draw, cafodd ei ddisodli fel deunydd ysgrifennu gan [[memrwn|femrwn]] a [[papur|phapur]] diweddarach.
[[Delwedd:Papyrus bill of sale donkey.jpg|bawd|dim|Dogfen (bil gwerthiant) a ysgrifennwyd yn Hen Roeg ar bapyrws (126 OC)]]
{{Rheoli awdurdod}}
|