Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Coleg Annibynwyr Aberhonddu"

B
Sefydlwyd yr athrofa gyntaf ar gyfer darpar weinidogion yr Annibynwyr yng Nghymru ym [[Brynllywarch|Mrynllywarch]], [[Sir Forgannwg]] ym 1662. Sefydlydd y coleg oedd Samuel Jones, A.M. (1628 -1697) cyn athro yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Roedd Jones yn un o'r 2,500 o offeiriaid Piwritanaidd yn Eglwys Loegr a drowyd allan o'r eglwys ym 1662 am wrthod cydymffurfio â Deddf Unffurfiaeth 1662. Symudwyd yr athrofa yma i Tewkesbury, Swydd Gaerloyw wedi marwolaeth Jones.<ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-SAM-1628 Owen, J. D., (1953). JONES, SAMUEL (1628 - 1697), Brynllywarch, Sir Forgannwg, gweinidog Anghydffurfiol ac athro. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 4 Meh 2021</ref>
 
Sefydlwyd Athrofa i baratoi dynion ar gyfer weinidogaeth yr Annibynwyr Cymreig yn [[y Fenni]] ym 1757. Apwyntiwyd David Jardine, gweinidog Annibynnol y dref, yn bennaeth. Ym 1781, symudodd yr Athrofa i [[Croesoswallt|Groesoswallt]] i fod dan ofal [[Edward Williams (diwinydd ac athro Annibynnol)|Dr Edward Williams]].<ref>{{Cite web|title=WILLIAMS, EDWARD (1750 - 1813), diwinydd ac athro Annibynnol {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-EDW-1750|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2021-06-04}}</ref> Pan symudodd Dr Williams i fod yn weinidog ym [[Birmingham|Mirmingham]] symudodd yr Athrofa i [[Wrecsam]], lle yr arhosodd am 24 mlynedd dan ofal Jenkin Lewis, gweinidog y dref. Olynwyd Lewis fel gweinidog a phennaeth yr Athrofa gan Dr [[George Lewis]],<ref>{{Cite web|title=LEWIS, GEORGE (1763-1822), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-LEWI-GEO-1763|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2021-06-04}}</ref> ond ym 1816 derbyniodd ef alwad i fod yn weinidog [[Llanfyllin|Lanfyllin]], a chymerodd yr Academi gydag ef. Derbyniodd Dr Lewis alwad i'r [[Y Drenewydd|Drenewydd]] ym 1821 a symudodd yr Athrofa gydag ef eto. Bu farw George Lewis ym 1822. Olynydd Dr Lewis oedd Edward Davies, M.A. (mab yng nghyfraith Dr Lewis)<ref>{{Cite web|title=DAVIES, EDWARD (1796 - 1857), gweinidog ac athro Annibynnol {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-EDW-1796|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2021-06-04}}</ref> (ar y cyd â Samuel Bowen <ref>{{Cite web|title=BOWEN, SAMUEL (1799 - 1887), Macclesfield, athro a gweinidog gyda'r Annibynwyr {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BOWE-SAM-1799|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2021-06-04}}</ref> hyd 1830).<ref name="Llenor" />
 
== Coleg Aberhonddu ==