Simbabwe Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| gwlad={{banergwlad|Simbabwe}}}}
 
[[Delwedd:Great-Zimbabwe-2.jpg|300px|bawd|Rhan o Simbabwe Fawr]]
'''Simbabwe Fawr''' yw'r enw a roddir ar adfeilion dinas hynafol yn [[De Affrica (rhanbarth)|Affrica Ddeheuol]] (lleoliad: 20°16′De 30°54′Dw, yn [[Simbabwe]] heddiw) a oedd ar un adeg yn brifddinas i ymerodraeth sylweddol a elwir yn [[Ymerodraeth Munhumutapa]] (hefyd 'Monomotapa' neu 'Mwene Mutapa'). O'i chanolfan yn Simbabwe Fawr, rheolai'r ymerodraeth hon diriogaeth eang sy'n gorwedd heddiw yn y gwledydd presennol Simbabwe (a enwir ar ôl y ddinas) a [[Mosambic]]. Roedd trigolion y ddinas yn masnachu ag [[Arabia]] ac efallai [[Asia]] trwy porthladdoedd fel [[Sofala]], i'r de o ddelta [[Afon Zambezi]].
 
Codwyd Simbabwe Fawr yn y cyfnod rhwng yr [[11g]] a'r [[15g]]. Amcangyfrifir fod tua 18,000 o bobl yn byw a gweithio yno ar un adeg. Adeiladau o feini mawr, rhai ohonyn nhw'n anferth, a geir ar wasgar ar safle eang sy'n cynnwys tua 1,800 erw o dir (7 km²). Cafwyd hyd i nifer o ddarnau o [[crochenwaith|grochenwaith]] o darddiad [[Tsieina|Tsieineaidd]], gwydr o darddiad tramor ac arian bath o'r gwledydd [[Arabiaid|Arabaidd]], sy'n awgrymu fod cyfoeth a grym Simbabwe a'i hymerodraeth yn seiledig ar reolaeth ar rwydwaith o lwybrau masnach yn arwain i ardordir [[Dwyrain Affrica]] lle byddai masnachwyr Arabaidd yn galw yn eu [[dhow]]s.