Dillad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Clothing Tagiau: Gwrthdröwyd |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi gwrthdroi golygiadau gan Soares Pinto (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Dafyddt. Tagiau: Gwrthdroi |
||
Llinell 4:
Deunydd naturiol neu artiffisial a wisgir gan [[pobl|bobl]] yw '''dillad''' i gadw'r corff yn gynnes neu i amddiffyn neu addurno'r [[corff]]. Cânt eu gwisgo hefyd er mwyn bod yn gyffyrddus neu i adlewyrchu gwerthoedd [[cymdeithas|gymdeithasol]] neu [[crefydd|grefyddol]].
Gall dillad amddiffyn y corff dynol rhag peryglon yn yr amgylchedd, e.e. [[tywydd]] eithafol ([[heulwen]] cryf, [[poethder]] neu [[oerni]], [[glaw]], a.y.y.b.), [[pryf]]ed, cemegion, deunydd garw fel carreg, [[arf]]au a pheryglon eraill. Gyda dillad y mae'r corff dynol yn llai agored i niwed ac mae pobl yn medru addasu i sawl [[amgylchedd]].
Mae pobl wedi bod yn ddyfeisgar iawn dros y canrifoedd yn cynllunio dillad i gwrdd ag anghenion bywyd dan bob math o amgylchiadau. Mae'r term dillad yn gallu cynnwys gwisg arbennig felly nad yw'n cael ei gwisgo fel rheol, e.e. [[siwt gofod]], [[arfwisg]], [[siwt plymio]], [[costiwn nofio]] fel y [[bicini]], dillad gyrrwr beic, ac ati.
|