Gerald Williams, Yr Ysgwrn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ffermwr, nai Hedd Wyn a ceidwad Yr Ysgwrn
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Amaethwr a 'cheidwad Yr Ysgwrn' oedd '''Gerald Williams''' (192911 Mehefin 2021). Roedd yn nai i'r bardd Hedd Wyn a bu'n ffermio'...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:12, 11 Mehefin 2021

Amaethwr a 'cheidwad Yr Ysgwrn' oedd Gerald Williams (192911 Mehefin 2021). Roedd yn nai i'r bardd Hedd Wyn a bu'n ffermio'r Ysgwrn drwy gydol ei fywyd.[1]

Bywgraffiad

Ganwyd Gerald ar fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd yn 1929, yn fab i Ann, chwaer Hedd Wyn, ac Ivor Williams. Roedd yn un o bedwar o blant, a pan fu farw eu mam, magwyd Gerald a'i frawd Ellis gan eu Nain a'u Taid, sef rhieni Hedd Wyn. Derbyniodd ei addysg yn Nhrawsfynydd a Blaenau Ffestiniog, cyn dychwelyd i'r Ysgwrn i helpu ei Daid a'i ewythrod ar y fferm.

Ar ddymuniad ei Nain, gwnaeth Gerald ac Ellis "gadw drws Yr Ysgwrn yn agored" gan groesawu unrhyw ymwelwyr a ddaeth i'r fferm i dalu teyrnged i Hedd Wyn. Datblygodd y ffermdy a'r Gadair Ddu yn gofeb heddychlon, diwylliannol. Roedd Gerald ei hun yn gymeriad ffraeth oedd wrth ei fod yn adrodd yr hanes wrth ymwelwyr o bob oed a chefndir.[2]

Prynwyd yr Ysgwrn yn 2012 gan Barc Cenedlaethol Eryri, a roedd Gerald yn rhan allweddol o'r gwaith datblygu ar y ffermdy. Ei arwyddair oedd "cartref, nid amgueddfa", a bu’n cadw llygad ar bob agwedd o'r gwaith er mwyn sicrhau bod naws y cartref ddim yn mynd ar goll.

Anrhydeddau

Derbyniodd Gerald Williams anrhydedd am ei wasanaeth oes yn 2013, pan dderbyniodd MBE ar riniog yr Ysgwrn. Yn 2018, derbyniodd Wobr Arbennig yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru am ei wasanaeth i Gymru yn yr Ysgwrn.[3]

Marwolaeth

Bu farw yn 92 mlwydd oed gan adael ei wraig Elsa a'i chwaer Malo.

Cafwyd teyrnged gan Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Diwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod Gerald yn "ymhyfrydu yng nghwmni pobl a byddai gweld plant a phobl ifanc yn ddiffael yn ymddiddori yn hanes ei ddewythr wrth fodd ei galon. Gwnaeth Gerald Williams gyfraniad unigryw i ddiwylliant Cymru a braint oedd ei alw'n ffrind".[1]

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. "Roedd Gerald yn gymeriad hoffus, croesawgar, craff ac unigryw, a gyffyrddodd galonnau llawer, ac a ddaeth fel teulu estynedig i sawl aelod o staff. Ni fydd ymweliad â’r Ysgwrn yr un fath eto, a bydd y golled i’w theimlo yn fawr."

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Gerald Williams, Ceidwad Yr Ysgwrn, wedi marw , Golwg360, 11 Mehefin 2021.
  2. Tributes to 'unique character' who kept alive memory of Welsh poet Hedd Wyn (en) , Daily Post, 11 Mehefin 2021.
  3.  Gerald Williams MBE. Llywodraeth Cymru (20 Mawrth 2018). Adalwyd ar 11 Mehefin 2021.