Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bara fflat"

Ychwanegwyd 16 beit ,  7 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
B (corr)
 
==Hanes==
Y bara fflat yw'r cam cynharaf o ddatblygiad y bara ac mae'n deillio'n uniongyrchol o rysáit y [[grawnfwyd]] hynaf, sef, [[uwd]] - un o brydau pwysicaf ers dechrau amaethyddiaeth. Roedd yr Aifftiaid a'r [[Swmeria|Swmeriaid]] yn gyfarwydd â coginio math o fara fflat, hynny yw, uwd wedi'u pobi o garreg, o leiaf ers y 5ed mileniwm cyn Crist. Yn 2018 darganfuwyd briwsio bara wedi eu rhan-losgi mewn safle o gyfnod diwylliant y Natwffi ('"Natufian'") a elwir yn Shubayqa 1, yn Harrat ash Sham yn yr Anialwch Ddu yng [[Gwlad yr Iorddonen|Ngwlad yr Iorddonen]] yn dyddio'n ôl i 14,400 CC, sef 4,000 o flynyddoedd cyn cychwyn [[amaethyddiaeth]] yn y rhanbarth. Dadansoddwyd bod y bara fflat wedi ei wneud, mwy na thebyg, â [[barlys]] gwyllt, [[ŷd]] '"einkorn'", [[ceirch]] a ''Bolboschoenus glaucus'' sef math o diwber (tuber).<ref>{{cite journal |last1=Colin Barras |title=Stone Age bread predates farming |journal=New Scientist |volume=239 |issue=3187 |pages=6 |date=21 July 2018 |url=https://www.newscientist.com/article/mg23931873-800-stone-age-bakers-made-first-bread-thousands-of-years-before-farming/|bibcode=2018NewSc.239....6B |doi=10.1016/S0262-4079(18)31274-0 }}</ref><ref>{{cite journal |last1=Amaia Arranz-Otaegui et al. |title=Archaeobotanical evidence reveals the origins of bread 14,400 years ago in northeastern Jordan |journal=[[PNAS]] |volume=115 |issue=31 |pages=7925–7930 |date=16 July 2018 |doi=10.1073/pnas.1801071115|pmid=30012614 |pmc=6077754 }}</ref>
 
Gwyddys a bwyteir bara fflat ym mhob cwr o'r byd, ac mae'n yn dal i fod y ffordd fwyaf cyffredin o baratoi bara hyd heddiw.
==Nodweddion Rhanbarthol==
[[File:Pane carasau.jpg|bawd|''Pane carasau'' o [[Sardinia]]]]
Yn India a Phacistan, ceir bara fflat (a elwir yn ''roti'') mewn sawl amrywiaeth, megis yn feddwl a thrwchus fel y bara ''nân'' neu ''naan''; ''popadom'' papur-denau; ''chipati'' tenau a fwyteir mewn bwytai Indiaidd yng Nghymru (ystyd "''nân''" yw bara mewn [[Persieg]] نان, wrth archebu "bara nân" rydym yn gofyn am bara bara!). Ceir hefyd y ''paratha'' menynog; y ''puri'' gyda blawn grawn cyflawn. Ym [[Malaysia]] ceir bara fflat ''Roti Canai''.
 
<aeMae bara fflat Arabaidd, y ''chubz'' fel arfer yn denau ac yn cynnwys ond cwstyn uchaf ac isaf. Gellir eu hagor felly fel cwdyn â'u llenwi â chig neu lysiau i'w bwyta. Fel rheol ychwanegi pinsied o halen fel fod y burum yn chwyddo'n well.
 
Yn [[Iran]] a Thwrci, pobir y bara mewn ffwrn o gerrig poethion.<ref>Sina Vodjani, Gabriele von Kröcher: ''Zarathustra.'' Membran International, Hamburg 2006, ISBN 3-86562-739-0, S. 230–233.</ref> Ceir bara tenau ''lavash'' (gelwir hefyd yn ''yufka'' mewn [[Twrceg]]) a bara fflat tewach gyda burum o'r enw ''pide'' yn Nhwrci.
 
Ceir amrywiaeth o'r bara yma yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]] ond sydd ychydig yn denheuach a gelwir hi'n [[bara pita|fara pita]]. Mae'r ''ffilo'' o Wlad Groeg hefyd yn debyg i'r bara yufka Twrceg. Daw'r gair "''filo''" o'r [[Groeg (iaith)|Groeg]] φύλλο = "deilen" (sillefir hefyd yn ''fillo'' neu ''fyllo'' yn Saesneg) neu'r ''malsouka''yng Ngogledd Affrica. Ceir amwyriaethau arbenigol ar y bara yma megis, ''spanakopita'' , ''galaktoboureko'' neu ''brik'' sef dymplings wedi eu ffrio mewn gwledydd fel Twnisia.
 
Yn [[Israel]], [[bara pita]] yw'r bara mwyaf poblogaidd. Mae'r ''matze'' yn fath o bara fflat neu [[bara croyw|fara croyw]] arbennig a ddefnyddir ar gyfer gŵyl Pesach yr Iddewon; o'r bara yma y daw bara [[cymun]].
Ceir ''tunnbröd'' yn [[Sweden]] sy'n fara caled. Yng [[Gwlad yr Iâ|Ngwlad yr Iâ]] ceir dau fath o fara fflat: y ''laufabrauð'' ("bara deilen", bara collddail"), a breir wrth ffrio mewn braster dafad ac a fwytir adeg y [[Nadolig]]. Mae'n fara brai a chaled fel [[creision]] ac addurnir hi â phatrymau cain. Y bara fflat arall yw: ''flatbrauð'' sy'n fara amrwd a ddefnyddir yn aml ar gyfer [[brechdan|brachdannau]]. Yn [[Norwy]] ceir gwahaniaeth rhwng ''lefts'', bara meddal crempogllyd a'r ''flatbrød'' sy'n denau a brai.
 
Mae pobl y Sámi[[Sami]] yn draddodiadol yn cynhyrchu bara fflat meddal o'r enw ''gáhkko'' a gresir yng ngwres tân agored.
 
Yn yr Amerig, mae bara fflat tenau y ''tortilla'' sydd wedi eu gwneud y [[corn]] neu yd bellach yn fyd-enwog ac yn boblogaidd iawn yng Nghymru mewn bwytau neu fel bwyd archfarchnadoedd gyda bwydydd Mecsiacanaidd.
135

golygiad