Rhyngblethedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'File:Venn's four ellipse construction.svg|bawd|Mae dadansoddiad rhyngblethol yn ystyried yr holl ffactorau sy'n berthnasol i unigolyn gyda'i gilydd, yn...'
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:10, 20 Mehefin 2021

Cysyniad yw rhyngblethedd sy'n helpu i esbonio sut mae hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol rhywun yn cyfuno i greu gwahanol lefelau o wahaniaethu a braint. Cafodd y cysyniad ei greu yn 1989 gan Kimberlé Williams Crenshaw, a esboniodd fod ffactorau fel rhywedd, hil, dosbarth cymdeithasol, rhywioldeb ac anabledd yn rhyngblethu mewn unigolyn gan arwain at fathau gwahanol o wahaniaethu neu fraint. Er enghraifft, gallai hi fel menyw ddu wynebu gwahaniaethu nad yw menywod gwynion yn ei wynebu fel arfer, ac nad yw dynion duon yn ei wynebu fel arfer chwaith: mae ei hil a'i rhywedd yn rhyngblethu ac mae'r gwahaniaethu penodol mae hi'n ei wynebu yn deillio o hynny. Yn yr un modd, mae dynion yn fwy breintiedig na menywod ar y cyfan, a phobl wynion yn fwy breintiedig na phobl dduon; i ddynion gwynion, mae eu hil a'u rhywedd yn rhyngblethu i'w gwneud yn fwy breintiedig eto na dynion yn gyffredinol a phobl wynion yn gyffredinol.

Mae dadansoddiad rhyngblethol yn ystyried yr holl ffactorau sy'n berthnasol i unigolyn gyda'i gilydd, yn hytrach nag ystyried pob ffactor ar wahân.