Jonathan Pryce: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
}}
 
Actor a chanwr Cymreig ydy '''Syr Jonathan Pryce''' CBEKBE (ganwyd [[1 Mehefin]] [[1947]]) o [[Treffynnon|Dreffynnon]], [[Sir y Fflint]]. Ar ôl iddo astudio yn [[RADA]] a phriodi'r [[actores]] Wyddelig [[Kate Fahy]] ym [[1974]], dechreuodd ei yrfa fel actor llwyfan yn ystod y [[1970au]]. Arweiniodd ei waith yn y theatr iddo dderbyn mwy o rôlau cefnogol mewn ffilmiau ac ar y teledu. Daeth ei berfformiad sgrîn fawr mwyaf arwyddocaol yn [[ffilm gwlt]] [[Terry Gilliam]] ''[[Brazil (ffilm)|Brazil]]'' (1985).
 
Mae Pryce wedi serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid uchel, fel ''[[Evita (ffilm)|Evita]], [[Tomorrow Never Dies]], [[Pirates of the Caribbean]]'' a ''[[The New World]]'', yn ogystal a phrosiectau annibynnol fel Glengarry Glen Ross a Carrington. Mae ei yrfa ym myd y theatr hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan ennill dwy [[Gwobr Tony|Wobr Tony]] - y cyntaf ohonynt ym [[1977]] am ei berfformiad cyntaf ar [[Broadway]] yn "Comedians", a'r ail am ei ran fel "y Peiriannydd" yn y [[sioe gerdd]] ''[[Miss Saigon]]''.
 
Yn 2015, roedd Pryce yn actor gwadd ar gyfres [[HBO]] ''[[Game of Thrones]]'' yn chwarae'r cymeriad The High Sparrow cyn dod yn actor rheolaidd ar y gyfres yn 2016.
 
Fe'i urddwyd yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021, am wasanaeth i Ddrama a Gwaith Elusennol.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/queens-birthday-honours-2021-wales-20793573|teitl=Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured|cyhoeddwr=WalesOnline|dyddiad=11 Mehefin 2021|dyddiadcyrchu=20 Mehefin 2021}}</ref>
 
== Theatr (anghyflawn) ==