Cwm Cynon (etholaeth seneddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae Cwm Cynon wedi bod yn sedd Lafur ddiogel ers blynyddoedd ac wedi ethol aelod Llafur i’r Senedd ers 1922. Yn wir hon oedd un o'r seddau Llafur mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig a...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:42, 11 Chwefror 2007

Mae Cwm Cynon wedi bod yn sedd Lafur ddiogel ers blynyddoedd ac wedi ethol aelod Llafur i’r Senedd ers 1922. Yn wir hon oedd un o'r seddau Llafur mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig ac ni lwyddodd y gwrthbleidiau i wneud unrhyw argraff mewn Etholiadau Cyffredinol. Ond fe ysgwydwyd seiliau gwleidyddol yr etholaeth yn Etholiadau’r Cynulliad ym 1999 wrth i Blaid Cymru ddod o fewn 667 o bleidleisiau o gipio'r sedd. Yr un diwrnod fe gafodd y blaid lwyddiant yma ar lefel llywodraeth leol hefyd gan ennill 13 allan o’r 21 ward yn yr etholaeth. Mae’r etholaeth yn gorwedd o fewn ffiniau Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Llafur oedd wedi bod yn rheoli’r cyngor ers degawdau ond roedd yr etholwyr wedi dod yn gynyddol anhapus yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac fe elwodd Plaid Cymru o hynny. Ond erbyn etholiad San Steffan yn 2001 roedd tueddiadau gwleidyddol yr etholaeth yn troi yn ôl unwaith eto tuag at Lafur a’r blaid honno enillodd y sedd gyda mwyafrif o 48.2%. Er i Blaid Cymru gynyddu eu cyfran o’r bleidlais o bron i 7% ym 2001 roedd y blaid yn parhau i fod ymhell y tu ôl i Lafur. Hen ardal lofaol yw Cwm Cynon ac yma mae'r pwll dwfn olaf sy'n dal i weithio yng Nghymru sef Glofa'r Twr a brynwyd gan y gweithwyr.

Mae’r rhesi unffurf o dai mewn trefi fel Aberdâr, Aberpennar ac Abercynon yn dyst ei bod yn nodweddiadol o etholaethau’r Cymoedd. Fel llawer o gymunedau tebyg mae diweithdra'n uchel yma ac mae'r ardal yn dioddef o anfanteision cymdeithasol er bod nifer o ddiwydiannau newydd wedi ymsefydlu yn y cwm.