Preseli Penfro (etholaeth seneddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

etholaeth seneddol
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae’r sedd wledig hon yn tynnu at ei gilydd rannau o dde Sir Benfro sy’n bennaf Saesneg eu hiaith a rhan ogleddol y sir sy’n Gymraeg ei hiaith. Mae Preseli Sir Benfro yn cynnwy...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:54, 11 Chwefror 2007

Mae’r sedd wledig hon yn tynnu at ei gilydd rannau o dde Sir Benfro sy’n bennaf Saesneg eu hiaith a rhan ogleddol y sir sy’n Gymraeg ei hiaith. Mae Preseli Sir Benfro yn cynnwys porthladdoedd fferi Doc Penfro a Abergwaun, a rhan helaeth o Aberdaugleddau, tref borthladd sy’n symud ei ddibyniaeth i hamdden a thwristiaeth wrth i buro olew a physgota ddirywio. Mae twristiaeth yn gyflogwr lleol bwysig. Mae arfordir prydferth a dramatig yr ardal yn gorwedd oddi fewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac mae Tþ Ddewi, y ddinas leiaf ym Mhrydain, yn un o’i atyniadau ymwelwyr pwysicaf.

Effeithiwyd ar y diwydiant twristiaeth gan drychineb gorlifiad olew y Sea Empress ym 1995, er ei bod wedi bod yn gwella yno ers hynny. Ergyd mwy diweddar oedd epidemig clwy’r traed a’r genau. Mae yna lefel cymharol uchel o ddiweithdra, yn enwedig yn ne’r etholaeth. Mae cyflogaeth yn yr ardal hefyd wedi cael ei fwrw gan gau’r sefydliadau amddiffyn lleol, a chau ffatri ddillad Dewhirst yn Abergwaun. Yn dilyn colli swyddi yn yr ardal, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad becyn adfywio ar gyfer yr ardal ar ddechrau 2003.

Ffurfiwyd Preseli Sir Benfro ym 1997 o rannau o etholaethau Ceredigion, Gogledd Penfro a Phenfro. Roedd y Rhyddfrydwyr, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr i gyd wedi gwneud yn dda mewn rhannau amrywiol o’r etholaeth cyn ei ffurfio, ond roedd Llafur wedi rheoli’r sedd newydd yn etholiadau San Steffan a rhai’r Cynulliad. Lleolir y sedd yn ardal awdurdod lleol Sir Benfro, a’i etholwyr oedd yr unig bleidleiswyr yn hanner gorllewinol Cymru i bleidleisio Na yn refferendwm datganoli 1997.