Camp David: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:David Eisenhower in Camp David.jpg|bawd|David Eisenhower, ŵyr yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower, wrth arwydd Camp David ym 1960.]]{{Gwybodlen lle}}
Preswylfa wledig [[Arlywydd yr Unol Daleithiau]] yw '''Camp David''' a leolir ym mryniau coediog Parc Mynydd Catoctin yn [[Frederick County, Maryland|Frederick County]], ger trefi [[Thurmont, Maryland|Thurmont]] ac [[Emmitsburg, Maryland|Emmitsburg]], yn nhalaith [[Maryland]], [[Unol Daleithiau America]]. Saif rhyw 62 milltir (100 km) i ogledd-orllewin y brifddinas [[Washington, D.C.]], lle mae preswylfa swyddogol yr arlywydd, [[y Tŷ Gwyn]]. Mae safle Camp David yn cwmpasu 200 erw (81 hectar) a amgylchynir gan ffensys o'r radd eithaf o ddiogelwch. Safle filwrol yw Camp David, dan awdurdod [[Llynges yr Unol Daleithiau]], a'i enw swyddogol yw'r Naval Support Facility Thurmont. Fe'i gweinyddir gan Swyddfa Filwrol y Tŷ Gwyn. Daw'r mwyafrif o weithwyr Camp David o'r llynges, yn enwedig y Seabees a Chorfflu'r Peirianwyr Sifil, a [[Corfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau|Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau]].