Cosaciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llu Zaporizhzhia, y Cosaciaid Cofrestredig
Tagiau: Golygiad cod 2017
BDim crynodeb golygu
Llinell 48:
 
=== Cosaciaid Zaporizhzhia ===
TrigoddRoedd y Cosaciaid Wcreinaidd cyntaf yn byw yn rhanbarth [[Zaporizhzhia (rhanbarth)|Zaporizhzhia]], i dde rhaeadrau Afon Dnieper. Yno, yn y cyfnod 1530–50, ymgynullodd y Cosaciaid rhydd mewn tiriogaeth yng ngororau eithaf [[Teyrnas Pwyl]] (a fyddai'n uno ag [[Uchel Ddugiaeth Lithwania]] ym 1569 i ffurfio'r [[Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd]]). Adeiladasant bencadlys mewn [[llannerch]] (''sich'' neu ''sech'') yn y [[corstir]]oedd coediog o amgylch hen gaer ar un o ynysoedd y Dnieper. Ymledodd aneddiadau'r Llu Zaporizhzhiaidd oddi yno, gan ffurfio [[lled-wladwriaeth]] awtonomaidd i raddau a elwir Sich Zaporizhzhia, a fodolai am ryw ddeucan mlynedd.<ref name=Seaton12>Seaton, ''The Cossacks'' (1972), t. 12.</ref>
 
Byddai marchogion Zaporizhzhia yn crwydro'r stepdiroedd, yn brwydro'r Tatariaid ac yn chwilio am ysbail, weithiau yn dwyn cyrchoedd mawr ar Chanaeth y Crimea a [[Moldafia|Thywysogaeth Moldafia]]. Byddai'r badwyr a'r pysgotwyr yn hwylio i lawr y Dnieper i ysbeilio a llosgi aneddiadau'r Tyrciaid ar lannau'r Môr Du. Gwisgodd Cosaciaid Zaporizhzhia ddillad lliwgar yn y dull Tataraidd, a byddent yn eillio'nu pennau a'u wynebauhwynebau gan adael [[penclwm|penclymau]] a [[trawswch|mwstashis]] hirion.<ref name=Seaton12/>
 
Roedd cymdeithas a nodweddion Llu Zaporizhzhia yn debyg iawn i Lu Rwsiaidd y Don, a bu'r ddau lu yn aml yn cynorthwyo'i gilydd yn filwrol. Y prif wahaniaeth rhyngddynt, ar wahân i'r iaith, oedd natur wrywol yn unig Sich Zaporizhzhia.<ref name=Seaton12/> Urdd filwrol yn hollolbur oedd Llu Zaporizhzhia, a barics oedd eu cytiau, a ni chaniateid i ferched fyw yn y Sich. Yn wahanol i Gosaciaid y Don, a fyddent ynfyddai'n cael teuluoedd mawr mewn cymunedau ethnig gyda'i gilydd, byddai brwydrwyr unigol y Sich yn ymuno â'r llu ar liwt eu hunain, yn gwasanaethu am ychydig dymhorau neu flynyddoedd, ac yna'n ymsefydlu ac yn amaethu ar gyrion y Sich, dan awdurdod Llu Zaporizhzhia ond y tu allan i ffiniau'r urdd ei hun. O ganlyniad i'r drefn hon, byddai'r gwerinwyr yn y rhanbarth hwn yn [[ymddiwylliannu]] â'r Cosaciaid. Daeth y mwyafrif o recriwtiaid y Sich o ardal ganolog y Dnieper, ac yn ôl cofrestr o 1581 roedd 83% o'r llu o dras [[Wcreiniaid|Wcreinaidd]] neu [[Belarwsiaid|Felarwsiaidd]], rhyw 10% yn [[Pwyliaid|Bwyliaid]], a'r gweddill yn Datariaid, [[Moldafiaid]], Circasiaid, [[Serbiaid]], [[Lifoniaid]], ac [[Almaenwyr]]. Dim ond ychydig fach iawn o Rwsiaid ethnig oedd yn ymaelodi â Llu Zaporizhzhia. Erbyn 1621 roedd rhyw 40,000 o frwydrwyr yn y llu hwn, gan gynnwys milwyr ychwanegol o Gosaciaid Wcreinaidd eraill.<ref name=Seaton13>Seaton, ''The Cossacks'' (1972), t. 13.</ref>
 
=== Y Cosaciaid Cofrestredig ===