Abel Tasman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
cyf
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }}
 
Morwr, fforiwr a marsiandïwr o'r [[Iseldiroedd]] oedd '''Abel Janszoon Tasman''' ([[1603]] - [[10 Hydref]] [[1659]]).<ref>{{cite book|author=Ralph J. Perdriau|title=Elusive Freedoms|url=https://books.google.com/books?id=UdJrAAAAMAAJ|year=1966|publisher=Leslie Harold Perdriau|page=105|language=en}}</ref>
 
Ganed Tasman ym 1603 yn [[Lutjegast]], yn nhalaith [[Groningen (talaith)|Groningen]] yn yr Iseldiroedd. Y cofnod hanesyddol cyntaf amdano yw ei fod wedi priodi Jannetjie Tjaers ym 1631, pan oedd yn ŵr gweddw yn byw yn [[Amsterdam]]. Yn fuan wedyn aeth i weithio i'r [[VOC]] (Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd) ac ym 1634 roedd yn fêt ar long yn hwylio o Batavia ([[Jakarta]] yn [[Indonesia]] bellach).
 
Ym mis Awst [[1642]] gyrrwyd Tasman i chwilio am dir yn rhan ddeheuol y [[Môr Tawel]]. Ar [[24 Tachwedd]] 1642 gwelodd arfordir yr ynys sydd nawr wedi ei henwi ar ei ôl, [[Tasmania]], er mai "Gwlad van Diemen" y galwodd ef hi, ar ôl Anthony van Diemen, llywodraethwr India'r Dwyrain. Trodd Tasman tua'r dwyrain ac ar [[13 Rhagfyr]] gwelwyd arfordir yr ynysoedd sy'n awr yn dwyn yr enw [[Seland Newydd]]. Yr enw a roddodd Tasman i'r ynys oedd ''Staten Landt''. Lladdwyd pedwar o'i wŷr gan nifer o'r [[Maorïaid]]. Wedi rhagor o anturiaethau, dychwelodd i Batavia ar [[15 Mehefin]] 1643. Ym 1644 cychwynnodd ar fordaith arall, gan archwilio arfordir gogleddol [[Awstralia]]. Bu farw yn Batavia ym mis Hydref 1659.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}