Bury: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 19:
===Y Chwyldro Dywidiannol===
Roedd bythynnod gwehyddion yn ystod y 17eg a 18fed ganrif yn Elton a daeth melinau yn defnyddio ynni dŵr.<ref>{{Cite web |url=http://www.spinningtheweb.org.uk/ |title=Gwefan Spinning the Web |access-date=2021-06-09 |archive-date=2012-09-12 |archive-url=https://archive.is/20120912104232/http://www.spinningtheweb.org.uk/ |url-status=dead }}</ref><ref>A guide to the Industrial Archaeology of Greater Manchester gan Robina McNeil a Michael Nevell, cyhoeddwyd 2000 gan Association for Industrial Archaeology;isbn 978-0-9528930-3-5</ref> Sefydlwyd Melin Brooksbottom ym 1773, i argraffu [[Calico]] yn [[Summerseat]], gan deulu Peel. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd y dywidiant [[Cotwm]] yn bwysig i’r dref, a’r [[Afon Irwell]] ac [[Afon Roch]] yn cyflenwi pŵer a dŵr i’r melinau. Agorwyd [[Camlas Manceinion, Bolton a Bury]] ym 1808 yn rhoi cysylltiad i’r camlesi eraill. Adeilaladwyd [[Cronfa Dŵr Elton]] i roi dŵr o’r Irwell i’r gamlas. Roedd 7 melin cotwm yn Bury erbyn 1818. Aeth poblogaeth y dref o 9.152 ym 1801 i 20,710 ym 1841 a 58.029 erbyn 1901. Adeiladwyd rheilffyrdd o [[Gorsaf reilffordd Bury (Heol Bolton)|orsaf reilffordd Bury (Heol Bolton)]] i [[Rawtenstall]], [[Accrington]] a [[Manceinion]], ac o [[Gorsaf Reilffordd Bury (Heol Knowsley|orsaf Reilffordd Bury (Heol Knowsley)]] i [[Bolton]], [[Heywood]] a [[Rochdale]]. Tyfodd dywidiannau papur a pheiriannu ysgafn. Ehangwyd y dref i gynnwys [[Elton]]. [[Walmersley]] a [[Heap]] ac adeiladwyd tai terasau. Nid oedd strydoedd neu garthfosydd, ac roedd tai yn orlawn, felly daeth clefydd a marwolaeth yn gyffredin<ref> From Parish to Metro: Two Centuries of Local Government in a Lancashire Town; awdur Jean Bannister, 1974; cyhoeddwr: Bury Times; isbn 978-0-9504263-0-3</ref>. Comisiwnwyd adroddiad gan [[Syr Robert Peel]] ([[Prif Weinidog]] ar y pryd), yn gofyn am wybodaeth oddi wrth meddygon. Roedd gan Heol y Brenin 10 tŷ, bob un gyda 1 ystafell wely, ac roedd yno poblogaeth o 69. Digwyliad einioes pobl Bury oedd 13.8 blwyddyn.<ref> A History of Local Government’ 1946 gan Kingsley Bryce Smellie; cyhoeddwyr G. Allen & Unwin Ltd; isbn= 0-04-352016-2</ref> Astudiwyd 38 llety yn y dref; rhanwyd gwelyau yn ddiwahân gan dynion a merched mewn 73%. Roedd 81% yn fudr, ac roedd 5.5 pobl mewn gwely ar gyfartaledd.<ref>Health of Towns Commission, 1844</ref>
 
===Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn===
[[File:Lancashire Fusiliers, Tower Gardens.jpg|thumb|right|upright|Cofeb ryfel i [[Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn]] yng Ngerddi Whitehead]]
Daethant Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn ar ôl iddynt ymuno â byddin William o Oren, ar ôl iddo lanio yn [[Brixham]], [[Dyfnaint]] ym 1688. Sefydlwyd depo’r gatrawd ym [[Barics Wellington, Bury|Marics Wellington]] ym 1881.<ref>[https://www.bbc.co.uk/history/domesday/dblock/GB-376000-408000/page/15|title=Wellington Barracks Gwefan BBC]</ref> Roedd adeilu’r barics yn ymateb i ymgyrch y [[Siartwyr]].
 
==Enwogion==