Llyfr Coch Hergest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[Llawysgrif]] hynafol yn yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]], a ysgrifennwyd tua [[1382]]-[[1410]], yw '''Llyfr Coch Hergest'''. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r [[Mabinogi]] a cheir ynddi ogystal sawl testun [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] arall ac adran bwysig o gerddi. Mae'r gwaith wedi'i osod yn drefnus iawn ac yn cynnwys [[Rhyddiaith]], [[barddoniaeth]], gweithiau brodorol, addasiadau o ieithoedd eraill a chyfieithiadau.<ref>''Gwyddoniadur Cymru''; Gwasg y Brifysgol; 2008; tud.577</ref>
 
Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr [[Hopcyn ap Tomas]] o [[Ynysforgan]] ac [[Ynysdawe]] ar ddechrau'r [[15g]]. Gwyddys ei fod yn berchen ar [[Llyfr Coch Hergest|Lyfr Coch Hergest]] gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd proffesiynol Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn ap Tomas ab Einion o [[Ynysforgan]] yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] y lluniwyd y llawysgrif. Ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn a cheir dim llai na phum [[awdl]] i Hopcyn yn y Llyfr Coch yn ogystal a gwaith gan: [[Llywelyn Goch ap Meurig Hen]], [[Dafydd y Coed]], [[Madog Dwygraig]], [[Meurig ab Iorwerth]] ac [[Ieuan Llwyd ab y Gargam]]. Yn ogystal a hyn, ceir awdl gan [[Y Proll]] i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd o fri.<ref name=>"R. Iestyn Daniel 2002"/>
 
Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas [[Hergest (plas)|Hergest]] yn [[Swydd Henffordd]]. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o [[Llys Tre-tŵr|Dre-tŵr]] yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r [[17g]] a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] yn [[1701]], ac mae ar gadw yn [[Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen]], ac wedi'i ddigideiddio ar drwydded agored.