Breuddwyd Rhonabwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Y testun a'i ddyddiad: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g, 12fed ganrif12g using AWB
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Pethau}}
Chwedl [[Gymraeg]] ganoloesol sy'n perthyn i Gylch [[Arthur]] yw '''Breuddwyd Rhonabwy''' ([[Cymraeg Canol]]: '''Breudwyt Ronabwy'''). Mae'n chwedl ymwybodol-lenyddol gan lenor dawnus gydag elfen gref o'r [[bwrlesg]] ynddi. Fe'i lleolir yn hen deyrnas [[teyrnas Powys|Powys]] yn amser [[Madog ap Maredudd]] (m. [[1160]]). Mae'r awdur yn anhysbys ond mae'n debygol ei fod yn frodor o Bowys.
 
==Y testun a'i ddyddiad==
[[Delwedd:Rhonabwy brain Owain(Guest).JPG|250px|bawd|Owain yn codi ei ystondardd gyda'i frain yn ymladd marchogion Arthur (engrafiad yn "Mabinogion" [[Charlotte Guest]] (1877)]]
 
[[Delwedd:Breudwyt Ronabwy - Allan o Lyfr Coch Hergest (llyfr).jpg|bawd|''Breudwyt Ronabwy''; gol. Melville Richards; Cyhoeddwyd gyntaf yn 1948]]
Cedwir yr unig gopi canoloesol o ''Breuddwyd Rhonabwy'' yn ''[[Llyfr Coch Hergest]]'' (c. [[1375]]-[[1425]]). Nis ceir yn ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'' (c. [[1300]]-[[1325]]), sy'n cynnwys fel arall copïau o'r testunau [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] eraill a elwir yn '[[Mabinogion]]', ond mewn rhan o'r [[llawysgrif]] honno ceir bwlch sy'n awgrymu y bu testun o ''Breuddwyd Rhonabwy'' i'w cael yno yn wreiddiol. Ar sail hyn ac iaith y testun mae ysgolheigion wedi cynnig dyddiadau ar gyfer ei gyfansoddi yn ymestyn o ganol y [[12g]] hyd at ddiwedd y [[13g]]: ni all fod yn gynharach oherwydd rhan amlwg Madog ap Maredudd yn y chwedl.
 
Llinell 15 ⟶ 16:
 
Mae'r rhestr o'r arwyr yn llys Arthur yn debyg i'r un a geir yn ''[[Culhwch ac Olwen]]'' a cheir traddodiadau dilys am Owain ab Urien a'i frain yn ogystal.
[[Delwedd:Breudwyt Ronabwy - Allan o Lyfr Coch Hergest (llyfr).jpg|bawd|chwith|Clawr ''Breudwyt Ronabwy''; gol. Melville Richards; Cyhoeddwyd gyntaf yn 1948]]
 
==Llyfryddiaeth==
Y golygiad safonol o'r testun yw: