Manawydan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
man bethau
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
gwahanu
Llinell 3:
 
==Crynodeb o'r chwedl==
{{Prif|Manawydan fab Llŷr: Trydedd Gainc y Mabinogi}}
 
Mae Manawydan yn frawd i [[Branwen]] a [[Brân Fendigaid]], brenin Ynys Prydain. Pan gaiff Branwen ei chamdrin gan ei gŵr, [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]], mae Manadwydan yn croesi i Iwerddon gyda'i frawd a'i fyddin i ddial ei cham. Wedi ymladd chwerw, mae Manawydan yn un o'r saith gŵr sy'n dychwelyd yn fyw o Iwerddon. Mae'n derbyn gwahoddiad gan [[Pryderi]] i ddod gydag ef i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] a phriodi ei fam, [[Rhiannon]].
 
[[Delwedd:Manawydan esgob(Guest).JPG|250px|bawd|Manawydan, yr esgob a'r llygoden - llun o engrafiad yn "Mabinogion" yr Arglwyddes [[Charlotte Guest]] (1877)]]
Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a [[Cigfa]], gwraig Pryderi. Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan.
 
Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwo mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog [[Llwyd fab Cil Coed]] yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill [[Gwawl fab Clud]] ei gamdrin gan [[Pwyll]] yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.