Santes Elen Luyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: {{Gwybodlen person/Wicidata i {{Person using AWB
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Chwedl yn y Mabinogion: llawysgrif MS 111
Llinell 7:
 
=== Chwedl yn y Mabinogion ===
[[File:Jesus-College-MS-111 00343 172r (cropped) Breuddwyd Macsen.jpg|bawd|chwith|Llinellau agoriadol o chwedl ''Breuddwyd Macsen Wledig'' mewn llawysgrif yn ''[[Llyfr Coch Hergest]]''.]]
Yn y chwedl ''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]'' a ddatblygodd yn yr Oesoedd Canol, dywedir fod [[Macsen Wledig]] yn breuddwydio ei fod yn teithio i ogledd-orllewin [[Ynys Brydain]], lle mae'n gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Aiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae [[gwyddbwyll]] a'r forwyn 'decaf erioed' yn eistedd ar 'orsedd orwych'. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannu. Mae Macsen yn anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd i chwilio am y ferch yn y freuddwyd, ac yn y diwedd maent yn darganfod y gaer a'r forwyn. Maent yn gofyn i'r forwyn briodi Macsen, ond yn y chwedl, mae hi'n gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru [[Beli fab Manogan]] a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n aros gyda'i thad [[Eudaf]] a'i brodyr [[Cynan Meiriadog]] ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon ([[Segontium]]) yn rhan o'r amddifynniad yn erbyn ymosodiadau o'r gogledd. Mae'n chwedl sy'n cadarnhau fod Elen a Macsen wedi cwrdd yng Nghaernarfon.