Llyfr Coch Hergest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
broliant
Llinell 3:
 
[[Llawysgrif]] hynafol yn yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]], a ysgrifennwyd tua [[1382]]-[[1410]], yw '''Llyfr Coch Hergest'''. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r [[Mabinogi]] a cheir ynddi ogystal sawl testun [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] arall ac adran bwysig o gerddi. Mae'r gwaith wedi'i osod yn drefnus iawn ac yn cynnwys [[Rhyddiaith]], [[barddoniaeth]], gweithiau brodorol, addasiadau o ieithoedd eraill a chyfieithiadau.<ref>''Gwyddoniadur Cymru''; Gwasg y Brifysgol; 2008; tud.577</ref>
 
Cyfeiriwyd ati fel 'y crynhoad llawysgrif sengl cyfoethocaf o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol' (Lewis 1971: 481), 'llyfrgell mewn un gyfrol', ac 'y trymaf o'r llyfrau canoloesol yn Gymraeg o bell ffordd, y mwyaf yn ei ddimensiynau ... a'r mwyaf trwchus' Huws (2000: 82).<ref>[http://www.rhyddiaithganoloesol.caerdydd.ac.uk/cy/tei-header.php?ms=Jesus111 rhyddiaithganoloesol.caerdydd.ac.uk;] Rhyddiaith Gymraeg 1300 - 1425 Prifysgol Caerdydd; adalwyd 20 Gorffennaf 2021.</ref>
 
Roedd ''[[Llyfr Gwyn Hergest]]'' yn llawysgrif a sgwennwyd yn rhannol gan [[Lewis Glyn Cothi]], ond yn 1810 cafodd ei ddinistrio mewn tân.