Wicipedia:Gweinyddwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
Defnyddwyr sydd â galluoedd arbennig ganddynt yw'r '''gweinyddwyr''', sy'n gallu perfformio tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia. Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau, heblaw ei bod yn dasg amlwg neu angen ei gweithredu yn ddiymdroi (e.e., dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach â hyn, gweithredu penderfyniadau cymuned Wicipedia yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif ddyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dadwneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.
 
== Creu gweinyddwyr ==
[http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Arbennig%3AListusers&username=&group=bureaucrat&limit=50 Biwrocratiaid] yw'r rhai sydd â phwerau uwch fyth ganddynt (gweler [[:en:Wikipedia:Bureaucrats|Wikipedia]]), a'r rhain sydd yn arfogi gweinyddwr. Os ydych am gynnig chi eich hunan neu ddefnyddiwr arall i fod yn weinyddwr gallwch wneud hynny ar y caffi. Mae'n arferol disgwyl i gael eilydd neu ddau o blith y defnyddwyr cyn i fiwrocrat greu gweinyddwr. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr gydsynio i fod yn weinyddwr cyn cael ei wneud yn weinyddwr. Nid oes terfyn ar gyfnod penodiad fel gweinyddwr ond fe all pwerau gweinyddwr gael eu tynnu oddi arno. Gall hyn ddigwydd ar gais y gweinyddwr ei hunan. Mewn achosion lle y camddefnyddiwyd pwerau gweinyddwr gall [[m:Stewards|stiward]] ddileu ei statws gweinyddwr yn unol â phenderfyniad gan Jimbo Wales neu'r pwyllgor cyflafareddu (gweler [[:en:Wikipedia:Administrators#Administrator_abuse|Wikipedia]] am eglurhad pellach).