Camlas Panama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llyn Gatun
Add 2 books for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210722)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Llinell 14:
Am fod hi'n beryglus mynd o gwmpas [[yr Horn]] yn [[De America|Ne America]], roedd pobl wedi bod eisiau camlas dros culdir Panama ers blynyddoedd, ond dim ond yn y [[1820au]] y daeth hynny i ymddangos yn bosib. Roedd pobl yn ystyried camlas ar draws [[Nicaragwa]] hefyd, ond nid adeiladwyd camlas o'r fath. Y cofnod cynharaf yn ymwneud â chamlas ar draws y tir dan sylw a elwir yn '"Guldir Panama" oedd ym 1534, pan orchmynnodd Siarl V, Ymerawdwr Glan Rufeinig a Brenin Sbaen, arolwg ar gyfer llwybr trwy'r America er mwyn hwyluso'r fordaith i longau sy'n teithio rhwng Sbaen a Pheriw. Roedd y Sbaenwyr yn ceisio ennill mantais filwrol dros y Portiwgaliaid.<ref>{{cite web|url=http://www.pancanal.com/eng/history/history/index.html |title=A History of the Panama Canal: French and American Construction Efforts|publisher=Panama Canal Authority |access-date=2007-09-03}}; Chapter 3, ''[http://www.pancanal.com/eng/history/history/early.html Some Early Canal Plans]''</ref>
 
Llwyddodd [[Ferdinand de Lesseps]], peiriannydd o [[Ffrainc]] adeiladu [[Camlas Suez]] yn [[yr Aifft]], ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i gynllunio'r gamlas. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar [[1 Ionawr]], [[1880]]. Ond yn wahanol i'r Aifft lle roedd aeiladu camlas Suez yn golygu cloddio tywod mewn [[diffeithdir]], roedd yn rhaid cloddio cerrig mewn [[coedwig law]] a brwydro yn erbyn dilywiau yn ogystal ac afiechydon trofannol megis [[clefyd melyn]] a [[malaria]] a bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r prosiect.{{sfn |McCullough |1977 |p=125}}<ref>{{cite book|last=Cadbury|first=Deborah|title=Seven Wonders of the Industrial World|url=https://archive.org/details/sevenwondersofin0000cadb|year=2003|publisher=Fourth Estate|location=London and New York|pages=252–260[https://archive.org/details/sevenwondersofin0000cadb/page/252 252]–260}}</ref>
 
Beth bynnag, roedd [[Theodore Roosevelt]], Arlywydd yr [[UDA|Unol Daleithiau]] yn hyderus fod y prosiect hwn yn bwysig i'w wlad—am resymau milwrol yn ogystal a rhai [[economeg|economaidd]]. Ar y pryd, roedd Panamá yn rhan o [[Colombia]], a felly dechreuodd trafodaethau â Colombia i gael caniatâd adeiladu. O ganlyniad, arwyddwyd Cytundeb Hay-Herran ym [[1903]], ond ni chadarnhawyd y cytundeb gan Senedd Colombia. Felly roedd Roosevelt yn cefnogi'r mudiad annibyniaeth Panamáidd ac yn danfon llongau rhyfel i'r arfordir pan ddechreuodd frwydr. Doedd gwrthwynebiad Colombia yn erbyn y chwyldro ddim yn cryf iawn (efallai er mwyn osgoi rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau) a daeth Panamá i fod yn wlad annibyniol; rhoddwyd Camlas Panamá a'r ardal cyfagos i'r Unol Daleithiau ar [[23 Chwefror]], [[1904]] am gyfnod amhenodol.<ref>{{cite web|url=http://avalon.law.yale.edu/20th_century/pan001.asp |title=Avalon Project—Convention for the Construction of a Ship Canal (Hay-Bunau-Varilla Treaty), November 18, 1903 |publisher=Avalon.law.yale.edu |access-date=2010-10-24}}</ref> Cafodd Panamá $10 miliwn am hynny (ar ôl Cytundeb Hay-Bunau-Varilla, [[18 Tachwedd]], [[1903]]).<ref>{{cite book|last1=Livingstone|first1=Grace|title=America's Backyard : The United States and Latin America from the Monroe Doctrine to the War on Terror|url=https://archive.org/details/americasbackyard00livi|date=2009|publisher=Zed|location=London|isbn=9781848132146|pages=[https://archive.org/details/americasbackyard00livi/page/13 13]}}</ref> Hyd yn oed yn 2021, gwelai lawer o frodorion Panema hyn fel cam gwag a oedd yn bygwth sofraniaeth y wlad.<ref>{{Cite web|title=September 07, 1977 : Panama to control canal|url=http://www.history.com/this-day-in-history/panama-to-control-canal/print|publisher=History.com|year=2010|access-date=4 Ebrill 2015|archive-url=https://web.archive.org/web/20150410075709/http://www.history.com/this-day-in-history/panama-to-control-canal/print|archive-date=2015-04-10|url-status=dead}}</ref><ref>{{cite book|last=Lowe|first=Vaughan |title=International Law|url=https://books.google.com/books?id=8ylwAgAAQBAJ&pg=PR92|access-date=4 Ebrill 2015|publisher=Oxford University Press|page=66|isbn=9780191509070 |date=28 Medi 2007 }}</ref>
 
Yn ystod yr adeiladu, bu arbenigwyr o'r Unol Daleithiau yn cryfhau mesurau iechyd ac yn dileu'r clefyd melyn. Roedd tri prif peiriannydd yn gweithio ar y gamlas: doedd y cyntaf, [[John Findlay Wallace]], nad oedd yn llwyddiannus iawn, ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith sylfaenol gan yr ail, [[John Stevens]], ond fe ymddiswyddodd yntau ym [[1907]]. Cwblhawyd y gamlas gan y trydydd, y milwr Americanaidd [[George Washington Goethals]].