Dubai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jebel Ali - delwedd
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210722)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Llinell 25:
Fel rhan o'r isadeiledd ar gyfer pwmpio a chludo olew o faes olew Fateh, sydd wedi'i leoli ar y môr gyferbyn ardal Jebel Ali, adeiladwyd dau danc storio 500,000 galwyn, a elwir yn lleol yn 'Kazzans', trwy eu weldio gyda'i gilydd ar y traeth ac yna'u harnofio a'u gollwng ar wely'r môr ym maes Fateh.<ref>{{cite web|url = http://dubaiasitusedtobe.com/pagesnew/ChicagoBeachDubai.shtm|title = How Chicago Beach got its name...then lost it!|access-date = 20 Awst 2016|website = Dubai As It Used To Be|last = Chapman|first = Len|url-status=live|archive-url = https://web.archive.org/web/20160709050015/http://www.dubaiasitusedtobe.com/pagesnew/ChicagoBeachDubai.shtm|archive-date = 9 JGorffennaf 2016|df = dmy-all}}</ref> Adeiladwyd y rhain gan y Chicago Bridge and Iron Company, a roddodd ei enw lleol i'r traeth (Traeth Chicago), a Gwesty'r Chicago Beach, a gafodd ei ddymchwel a'i ddisodli gan Westy'r Jumeirah Beach ddiwedd y [[1990au]]. Roedd y Kazzans yn datrus y broblem o sut i storio olew mewn ffordd arloesol, a olygai y gallai llong-danceri enfawr angori ar y môr hyd yn oed mewn tywydd gwael ac osgoi'r angen i bibellau olew ar y tir o Fateh, sydd tua 60 milltir allan i'r môr.<ref>{{Cite book|title=The Trucial States|last=Donald.|first=Hawley|date=1970|publisher=Allen & Unwin|isbn=978-0049530058|location=London|pages=222|oclc=152680}}</ref>
 
Roedd Dubai eisoes wedi cychwyn ar gyfnod o ddatblygu ac ehangu isadeiledd. Ond roedd y refeniw olew hwn, a oedd yn llifo o 1969 ymlaen, yn ysgogiad i gyfnod o dwf aruthrol, gyda Sheikh Rashid yn cychwyn ar bolisi o adeiladu seilwaith, isadeiledd ac economi fasnachu amrywiol cyn i gronfeydd wrth gefn cyfyngedig yr emirate gael eu disbyddu. Roedd olew yn cyfrif am 24% o'r CMC yn 1990, ond roedd wedi gostwng i 7% o'r CMC erbyn 2004.<ref name=":1">{{Cite book|title = Sand to Silicon|url = https://archive.org/details/sandtosilicongoi0000samp|last = Sampler & Eigner|publisher = Motivate|year = 2008|isbn = 9781860632549|location = UAE|page = [https://archive.org/details/sandtosilicongoi0000samp/page/11 11]}}</ref>
 
Yn hollbwysig, un o'r prosiectau mawr cyntaf i Sheikh Rashid gychwyn arno pan ddechreuodd y refeniw olew lifo oedd adeiladu [[Port Rashid]], porthladd rhydd, dŵr-dwfn a adeiladwyd gan y cwmni Prydeinig Halcrow. Y bwriad gwreiddiol oedd bod yn borthladd pedair angorfa, cafodd ei ymestyn i un ar bymtheg angorfa. Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol, gyda chiwio llongau i gael mynediad i'r cyfleusterau newydd. Cafodd y porthladd ei agor yn swyddogol ar 5 Hydref 1972, er bod ei angorfeydd i gyd yn cael eu defnyddio cyn gynted ag y cawsant eu hadeiladu. Ehangwyd Port Rashid ymhellach ym 1975 pan ychwanegwyd 35 angorfa arall, cyn i borthladd mwy Jebel Ali gael ei adeiladu.<ref name=":1"/>