Josip Broz Tito: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210722)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Llinell 9:
Ganwyd Josip, seithfed blentyn i Franjo a Marija Broz, ym mhentref [[Kumrovec]] yn [[Awstria-Hwngari]], sydd heddiw yn rhan o [[Croatia|Groatia]]. Cafodd ei alw i'r fyddin a daeth yn yr [[Uwch Sarsiant]] ieuengaf ym [[Byddin Awstria-Hwngari|Myddin Awstria-Hwngari]].<ref name="ReferenceA">Ridley, Jasper (1996). ''Tito: A Biography''. Constable. ISBN 0-09-475610-4 t. 59.</ref> Fe'i anafwyd yn ddifrifol gan y Rwsiaid, a gipiasant i'w ddanfon i wersyll gwaith ym [[Mynyddoedd yr Wral]]. Brwydrodd yn [[Chwyldro Hydref]] ac ymunodd ag uned [[Y Gwarchodlu Coch (Rwsia)|y Gwarchodlu Coch]] yn [[Omsk]]. Dychwelodd gartref i [[Teyrnas Iwgoslafia|Deyrnas Iwgoslafia]] ac ymunodd â'r [[Plaid Gomiwnyddol Iwgoslafia|Blaid Gomiwnyddol]].
 
Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol (ac yn hwyrach Arlywydd) [[Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia]] (1939–80), ac arweiniodd herwfilwyr y [[Partisaniaid Iwgoslafia|Partisaniaid]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] (1941–45).<ref>{{cite book |title=The J Curve: A New Way to Understand Why Nations Rise and Fall |url=https://archive.org/details/jcurvenewwaytoun0000brem_m0v4 |last=Bremmer |first=Ian |year=2007 |publisher=Simon & Schuster |isbn=0-7432-7472-5 |page=[https://archive.org/details/jcurvenewwaytoun0000brem_m0v4/page/175 175]}}</ref> Ar ôl y rhyfel, ef oedd [[Prif Weinidog Iwgoslafia|Prif Weinidog]] (1943–63) ac yna [[Arlywydd Iwgoslafia|Arlywydd]] (1953–80) [[Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia]] (SFRY). O 1943 hyd ei farwolaeth ym 1980, daliodd rheng [[Marsial Iwgoslafia]], sef pencadlywydd [[Byddin Pobl Iwgoslafia]] (JNA), lluoedd milwrol y wlad. O ganlyniad i'w boblogrwydd tramor mewn dau floc [[y Rhyfel Oer]], derbynodd rhyw 98 o addurniadau gan wledydd eraill, gan gynnwys y ''[[Légion d'honneur]]'' ac [[Urdd y Baddon]]. Angladd Tito oedd yr [[angladd gwladwriaethol]] mwyaf erioed.<ref>{{cite book |title=Josip Broz Tito – Ilustrirani življenjepis |authors=Josip Vidmar,Rajko Bobot, Miodrag Vartabedijan, Branibor Debeljaković, Živojin Janković, Ksenija Dolinar |year=1981 |publisher=Jugoslovenska revija |isbn= |page=166}}</ref><ref name=Ridley>{{cite book |title=Tito: A Biography |last=Ridley |first=Jasper |year=1996 |publisher=Constable |isbn=0-09-475610-4 |page=19}}</ref>
 
Tito oedd prif sefydlwr "yr ail Iwgoslafia", ffederasiwn sosialaidd a fodolodd o'r Ail Ryfel Byd hyd 1991. Er yr oedd yn un o sefydlwyr [[Cominform]], ef oedd y yr aelod cyntaf o Cominform i herio hegemoni'r [[Undeb Sofietaidd]] a'r unig un a wnaeth hynny'n llwyddiannus. Cefnogodd ennill [[sosialaeth]] trwy ffyrdd annibynnol, mewn modd tebyg i [[sosialaeth genedlaethol]], a gelwir ei ideoleg yn [[Titoaeth]]. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y Mudiad Amhleidiol, a hyrwyddodd bolisi o niwtraliaeth rhwng dau floc y Rhyfel Oer. Arweiniodd ei bolisïau economaidd a diplomyddol at [[ymchwydd economaidd]] yn Iwgoslafia yn y 1960au a'r 1970au.<ref name="Yugoslavia as history">[[John R. Lampe|Lampe, John R.]]; ''Yugoslavia as history: twice there was a country''; [[Cambridge University Press]], 2000 ISBN 0-521-77401-2</ref><ref name="The three Yugoslavias">Ramet, Sabrina P.; ''The three Yugoslavias: state-building and legitimation, 1918–2005''; [[Indiana University Press]], 2006 ISBN 0-253-34656-8</ref><ref name="IMF and World Bank reforms">Michel Chossudovsky, International Monetary Fund, World Bank; ''The globalisation of poverty: impacts of IMF and World Bank reforms''; Zed Books, 2006; (University of California) ISBN 1-85649-401-2</ref> Llethwyd cenedlaetholdeb rhanbarthol gan ei bolisïu mewnwladol, a hybodd "[[brawdoliaeth ac undod]]" chwe chenedl Iwgoslafia. Wedi marwolaeth Tito ym 1980, datblygodd tensiynau rhwng gweriniaethau'r ffederasiwn ac ym 1991 [[chwalu Iwgoslafia|chwalodd Iwgoslafia]] gan arwain at gyfres o ryfeloedd yn y 1990au. Mae Tito yn barhau yn ffigur dadleuol yn [[y Balcanau]].