Adeilad y Pierhead: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210722)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Llinell 3:
[[Adeilad rhestredig]] Gradd I yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yw '''Adeilad y Pierhead''' (a elwir weithiau yn syml yn '''y Pierhead''', er enghraifft ar y wefan swyddogol). Saif ym [[Bae Caerdydd|Mae Caerdydd]], gyferbyn ag adeilad y [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|Senedd]]. Mae'n eiddo i'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] a cheir arddangosfa am hanes Cymru a gwaith y Cynulliad oddi'i mewn.
 
Codwyd yr adeilad o 1896 i 1897 i gynlluniau [[William Frame]], pensaer [[Ardalydd Bute]], fel swyddfeydd ar gyfer Cwmni Dociau Bute.<ref>{{cite book |title=Glamorgan |series=''The Buildings of Wales'' |last=Newman |first=John |year=1995 |publisher=Penguin |location=Llundain|ref=harv}} t. 266</ref> (Ailenwyd hwn i Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897.)<ref name="Cynulliad">{{dyf gwe|url=http://www.assemblywales.org/cy/abthome/about_us-assembly_history_buildings/pierhead_history.htm|teitl=Hanes y Pierhead|cyhoeddwr=Cynulliad Cenedlaethol Cymru|dyddiadcyrchiad=14 Rhagfyr 2013}}</ref> Fe'i cynlluniwyd yn arddull adfywiedig y Ddadeni Ffrengig gyda briciau coch a terracotta a wnaed gan J. C. Edwards o [[Acrefair]], ger [[Rhiwabon]], [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]].<ref name="BBC">{{dyf gwe|url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_east/8535383.stm|teitl=Historic Pierhead building in Cardiff re-opens|cyfenw=Hannaby|enwcyntaf=Mark|cyhoeddwr=BBC|dyddiad=1 Mawrth 2010|dyddiadcyrchiad=14 Rhagfyr 2013|iaith=en}}</ref> Ar y ffasâd gorllewinol ceir panel terracotta â llong, peiriant rheilffordd, arbeisiau [[Morgannwg]] ac Ardalyddion Bute ac arwyddair Cwmni Rheilffordd Caerdydd, <small>WRTH DDŴR A THÂN</small>.<ref>{{cite book |title=Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape |url=https://archive.org/details/cardiffvalleysar0000hill |last=Hilling |first=John B. |year=1973 |publisher=Lund Humphries |location=Llundain|ref=harv}} t. 50</ref>
 
Prynwyd Cwmni Rheilffordd Caerdydd gan Reilffordd Great Western ym 1922; parhaodd yr adeilad fel swyddfeydd trwy gydol hyn a gwladeiddio'r rheilffyrdd ym 1947. Wedi hynny bu amryw o gyrff gwladol yn ei defnyddio, gan gynnwys Associated British Ports yn y 1970au.<ref name="Cynulliad"/> Ym 1973 gwerthodd British Rail fecanwaith y cloc i gasglwr yn America; fe'i dychwelwyd i Gaerdydd yn 2005 ac ers 2011 y mae wedi ffurfio rhan o waith celf yn Heol Eglwys Fair gan yr artist Marianne Forrest.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.walesonline.co.uk/cardiffonline/cardiff-news/2011/11/09/historic-pierhead-clock-makes-timely-return-to-cardiff-91466-29743876/ |teitl=Historic Pierhead Clock makes timely return to Cardiff |enwcyntaf=Wayne |cyfenw=Nowaczyk |gwaith=South Wales Echo |dyddiad=9 November 2011 |dyddiadcyrchiad=14 Rhagfyr 2013 |iaith=en}}</ref>