Y Deml Heddwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210722)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
 
Llinell 5:
Ar ei hagor ym 1938, gan fam a oedd wedi colli ei phlant yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru|Rhyfel Byd Cyntaf]],<ref name="Hilling"/> roedd y Deml Heddwch yn bencadlys i ddau sefydliad a grëwyd yn rhannol gan yr Arglwydd Davies: cangen Cymru Undeb [[Cynghrair y Cenhedloedd]] a Chymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru'r Brenin [[Edward VII, brenin y Deyrnas Unedig|Edward VII]] (sefydliad ar gyfer trin y diciâu). Er bod y rhain wedi darfod erbyn hyn, mae'r adeilad bellach yn gartref i ddau sefydliad arall ag amcanion sy'n gysylltiedig â heddwch ac iechyd, sef [[Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru]]<ref>{{dyf gwe|url=http://www.wcia.org.uk/history_cy.html|teitl=Hanes y Deml|cyhoeddwr=Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014}}</ref> a [[Iechyd Cyhoeddus Cymru]], un o ymddiriedolaethau'r [[GIG Cymru|Gwasanaeth Iechyd Gwladol]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.templeofpeaceandhealth.com/Cymraeg%20Public%20Health%20Wales%20NHS%20Trust.html|teitl=Iechyd Cyhoeddus Cymru|gwaith=Y Deml Heddwch|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014}}</ref>
 
Y pensaer [[Percy Thomas]] a gynlluniodd y Deml Heddwch, mewn arddull glasurol syml. Noda sawl awdur yr eironi fod yr arddull yn un debyg i bensaernïaeth [[Ffasgiaeth|Ffasgaidd]] yr Almaen a'r Eidal yn y 1930au.<ref name="Hilling">{{cite book |title=Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape |url=https://archive.org/details/cardiffvalleysar0000hill |last=Hilling |first=John B. |year=1973 |publisher=Lund Humphries |location=Llundain |ref=harv |pages=159–60[https://archive.org/details/cardiffvalleysar0000hill/page/159 159]–60}}</ref><ref name="BLB">{{dyf gwe|url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-13740-temple-of-peace-health-castle|teitl=Temple of Peace & Health, Castle|gwaith=British Listed Buildings|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014|iaith=en}}</ref>
 
Ar 4 Tachwedd 1967 ffrwydrodd bom y tu allan i'r Deml Heddwch, bom a blannwyd gan [[Mudiad Amddiffyn Cymru|Fudiad Amddiffyn Cymru]]. Protest oedd hyn yn erbyn cyfarfod mewn adeilad gerllaw i drefnu [[Arwisgiad Tywysog Cymru]]; amserwyd y taniad fel na fyddai neb yn cael ei anafu.<ref>{{dyf gwe|url=http://cardiffpast.wordpress.com/2013/11/23/the-bombing-of-the-temple-of-peace/|teitl=The bombing of the Temple of Peace|enwcyntaf=Tom|cyfenw=Matthews|gwaith=Cardiff Past|dyddiad=23 Tachwedd 2013|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014|iaith=en}}</ref>