Betws-y-crwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegwyd manylion am yr enw
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Cywirio camdeipiad
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}| suppressfields = cylchfa | ardal = {{#invoke:Wikidata|getRawValue|P131|FETCH_WIKIDATA}} | gwlad = {{banergwlad|Lloegr}} | sir = [[Swydd Amwythig]]<br />([[Siroedd seremonïol Lloegr|Sir seremonïol]]) }}
 
Pentref bychan a phlwyf sifil yn sir seremonïol [[Swydd Amwythig]], [[Gorllewin Canolbarth Lloegr (rhanbarth)|Gorllewin Canolbarth Lloegr]], yw '''Betws-y-crwyn''' neu '''BetwsycrewynBetwsycrowyn''' ([[Saesneg]]: ''Bettws-y-Crwyn'').<ref>[https://britishplacenames.uk/bettws-y-crwyn-shropshire-so205815#.YIxmZx0qQo8 British Place Names]; adalwyd 30 Ebrill 2021</ref> Fe'i lleolir yn awdurdod unedol [[Swydd Amwythig (awdurdod unedol)|Swydd Amwythig]]. Saif y pentref o fewn milltir a hanner i'r ffin â [[Cymru|Chymru]], ac mae'n un o nifer o bentrefi Seisnig sydd ag enw [[Cymraeg]] arnynt. Gorwedd 400m uwch lefel y môr, sy'n ei wneud yn un o'r pentrefi uchaf yn Swydd Amwythig, a Lloegr hefyd. Fe'i lleolir tua 16 milltir i'r gorllewin o dref [[Craven Arms]], Swydd Amwythig, a 9 milltir i'r de-ddwyrain o'r [[Drenewydd]], [[Powys]].
 
Y pentref agosaf yw [[Quabbs]]. Mae amlwd Anchor yn gorwedd o fewn y plwyf yn ogystal.
 
==Enw==
Y gair ''betws'', benthyciad o'r [[Hen Saesneg]] ''bed-hus'' ('tŷ gweddi, capel') yw elfen gyntaf yr enw.<ref>[https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?betws Geiriadur Prifysgol Cymru].</ref> Ond ymddengys nad y gair cyfarwydd ''crwyn'' (ffurf lusog ''croen'') sydd yn yr ail ran.<ref>[https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?croen Geiriadur Prifysgol Cymru].</ref> Wrth drafod yr enw, awgrymodd Eilert Ekwall, '[it] may be Welsh ''crowyn'' 'pigsty'.<ref name=Ekwall>Eilert Ekwall, ''[https://archive.org/details/in.ernet.dli.2015.184064/page/n83/mode/2up The Concise Oxford Dictionary of English Place-names]'' (third edition, Oxford: Clarendon Press, 1947), p.38.</ref> Cytunodd Margaret Gelling â'r awgrym<ref name=gelling>Margaret Gelling in collaboration with H. D. G. Foxall, ''The place-names of Shropshire. Part 1, The major names of Shropshire'', English Place-Name Society, vol. 62–3 (1990), p.47.</ref> ac mae prosiect 'Key to English Place-names' project Prifysgol Nottingham o'r un farn.<ref>[http://kepn.nottingham.ac.uk/map/place/Shropshire/Bettws-y-Crwyn University of Nottinham, Key to English Place-names]</ref> Mae gan y cair ''crowyn'' neu ''crewyn'' ystod o ystyron, gan gynnwys 'adeilad bychan y cedwir anifeiliaid ynddo, ffald, twlc, cut, cwb, cenel; cawell, basged'.<ref>[https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?crowyn Geiriadur Prifysgol Cymru].</ref>
 
Ysgrifennid yr enw gynt fel ''Bettus'' or ''Bettws''. Nid yw'r ail elfen ('crewyn'/'crwyn') i'w gweld cyn y 19g.<ref name=gelling></ref>