Anweledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: didoli a llaw pobl / grwpiau a rhoi Nodyn:Pethau ar y grwpiau, yn lle'r hen wybodlen using AWB
label
Llinell 3:
Band o [[Blaenau Ffestiniog|Flaenau Ffestiniog]] yng Ngogledd Cymru oedd '''Anweledig''', roeddynt yn chwarae amrediad o arddulliau Ffync, [[Reggae]], [[Ska]] a [[Roc]]. Aelodau'r band oedd: [[Ceri Cunnington]] (prif lais), [[Gai Toms]] (gitâr,cyfansoddi, llais), [[Iwan 'Oz' Jones]] (gitâr flaen), [[Rhys Roberts]] (gitâr fâs), [[Alwyn Evans]] (drymiau) a [[Joe Buckley]] (allweddellau) ynghyd ag adran chwyth, 'Y Tri Tôn'.
 
Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf, ''[[Sombreros yn y Glaw]]'' ar label [[Crai (label)|Crai]]. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau â'r [[Super Furry Animals]], [[Ffa Coffi Pawb]], [[Geraint Jarman]] ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cyntaf, recordiwyd fideo ar gyfer sioe [[S4C]], [[i-Dot]], o'r gân 'Fan Hyn'.
 
Yn 1999, rhyddhawyd EP ''[[Cae yn Nefyn]]'', eto ar label Crai. Yn arwydd o'u llwyddiant ar y pryd, roeddent yn brif fand yn [[Maes B]] yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef ''[[Scratchy]]'' (Sengl, [[2000]]), ''[[Gweld y Llun]]'' (Albwm, [[2001]]) a ''[[Low Alpine]]'' (Sengl, [[2001]]). Gwnaeth hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn [[2002]], aethant ar daith drwy [[Llydaw|Lydaw]], cyn cymryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill megis [[Mim Twm Llai]] (Gai Toms) a [[Vates (band)|Vates]] (Oz). Yn 2004, ailffurfiodd y band gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP ''[[Byw]]''. Yn y cyfamser, ymunodd Rhys Roberts i chwarae'r gitâr fâs i'r band roc [[Sibrydion]].