Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Llywodraeth: De bello galico → De bello Gallico
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 97:
Ni fu erioed, hyd y gwyddir, unrhyw fath ar ymerodraeth Geltaidd. Yn hytrach, roedd cryn nifer o unedau a elwir yn draddodiadol yn "llwythau", er bod rhai o'r rhain yn fwy datblygedig na'r diffiniad arferol o "lwyth", ac yn hytrach yn wladwriaethau. Daw'r manylion am y llwythau hyn o nifer o ffynonellau, yn arbennig ''De bello Gallico'' Iŵl Cesar yn y [[ganrif 1af CCC]], ac yn ddiweddarach ''Geographia'' [[Ptolemi]], sy'n enwi llawer o lwythau a'u prif ddinasoedd.
 
Ymhlith llwythau pwysicaf canolbarth Gâl, roedd yr [[Arverni]], y [[Carnutes]], yr [[Aedui]] a'r [[Allobroges]]. Yng ngogledd-ddwyrain Gâl, roedd nifer o lwythau a elwid y [[Belgae]], oedd efallai o darddiad Almaenaidd yn wreiddiol, yn cynnwys y [[Treveri]] a'r [[Nervii]]. Ceid rhai llwythau Belgaidd yn ne-ddwyrain [[Lloegr]] hefyd; ymddengys eu bod wedi mudo yno ychydig cyn ymweliad cyntaf Iŵl Cesar aâ'r ynys. Gweler [[Rhestr o lwythau Celtaidd]] am restr gyflawn.
 
Rheolid y rhan fwyaf o'r llwythau hyn gan [[Brenin|frenhinoedd]]. Roedd gan ambell lwyth, megis yr [[Eburones]] ddau frenin <ref>James ''Exploring the world of the Celts'' tud. 118</ref>; efallai rhag ofn i un fynd yn rhy bwerus, megis dau frenin [[Sparta]]. Ymysg yr [[Aedui]], yr [[Helvetii]] a rhai pobloedd eraill, roedd ynadon etholedig wedi cymryd lle'r brenin erbyn cyfnod Cesar. Gelwid prif ynad yr Aedui yn ''Vergobret'', ac etholid ef am gyfnod o flwyddyn.<ref>James ''Exploring the world of the Celts'' tud. 120</ref>