Aran Fawddwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
}}
 
Mae '''Aran Fawddwy''' yn fynydd yn ne [[Eryri]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]. Aran Fawddwy, 905 medr o uchder, yw'r mynydd uchaf yng Nghymru ac ar Ynys Prydain i'r de o'r [[Yr Wyddfa|Wyddfa]]. Aran Fawddwy yw'r copa uchaf ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau [[Llanuwchllyn]] tua [[Dolgellau]], sydd hefyd yn cynnwys [[Aran Benllyn]] sydd fymryn yn is, ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel [[Cadair Idris]], gyda [[Bwlch Oerddrws]] yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn.
 
Y pentrefi agosaf i'r mynydd yw [[Dinas Mawddwy]] i'r de, [[Llanymawddwy]] i'r de-ddwyrain, [[Rhydymain]] i'r gorllewin a Llanuwchllyn tua'r gogledd. Ar lechweddau dwyreiniol Aran Fawddwy mae llyn bychan [[Craiglyn Dyfi]], lle mae [[Afon Dyfi]] yn tarddu.